Mae Kris O’Leary wedi ymuno â staff hyfforddi tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Abertawe ar gyfer tymor 2022-23.
Mae’r cyn-chwaraewr 44 oed yn ymgymryd â’r rôl yn barhaol ar ôl bod yn y swydd dros dro yn ystod misoedd ola’r tymor diwethaf, wrth iddo barhau i weithio gyda’r tîm dan 23 hefyd.
Chwaraeodd O’Leary 334 o weithiau i’r Elyrch yng nghanol cae dros gyfnod o 15 mlynedd, gan ennill dyrchafiad dair gwaith yn ystod ei yrfa.
Bu’n hyfforddi yn yr Academi cyn ymuno â’r tîm cyntaf y llynedd, ac roedd e’n aelod o dîm hyfforddi Garry Monk yn ystod tymor 2014-15, wrth i’r Elyrch orffen yn wythfed yn Uwch Gynghrair Lloegr.
‘Gofal anhygoel’
“Mae e’n dangos gofal anhygoel dros yr hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud a thros y bobol yn y clwb pêl-droed hwn,” meddai’r rheolwr Russell Martin.
“Mae e’n gwybod beth mae’r clwb hwn yn sefyll drosto, chwaraeodd e i’r clwb a phrofi’r symudiad [i’r byd hyfforddi] o dan Roberto Martinez.
“Mae e wedi cefnogi’r clwb drwy gydol ei fywyd, ac mae e wedi bod yn wych gyda ni ers i ni ddod i mewn.
“Roedd hi’n anhygoel faint o amser dreuliodd e gyda ni, a sut y gwnaeth e drosi hynny wedyn i’r ffordd chwaraeodd y tîm dan 23, a gallech chi weld y cynnydd wnaethon nhw yn ystod ail hanner y tymor diwethaf.
“Fe wnaeth hynny greu tipyn o argraff arnon ni, ac mae ymdrechion Kris a staff yr Academi wedi ei gwneud hi’n haws o lawer i bobol fel Cameron Congreve, Joel Cotterill, Azeem Abdulai a Ben Lloyd ddod i mewn a theimlo’n gartrefol ac yn rhan o bethau’n gyflym.
“Camodd e i fyny y tymor diwethaf, ac roedd e’n glust arbennig i ni, mae e’n cynnig safbwyntiau gwahanol a phob amser yn cysylltu pethau â ‘Ffordd Abertawe’.
“Mae ganddo fe wybodaeth wych o’r gêm, a dealltwriaeth arbennig, ond yr un mor bwysig â hynnyw, mae e wedi bod yn berson gwych.
“Rydyn ni’n hapus iawn ac yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â fe.”
Bydd olynydd Kris O’Leary yn y tîm dan 21 – yr enw newydd ar dîm datblygu’r Elyrch – yn cael ei benodi maes o law.