Mae’r mudiad Detained in Qatar yn rhybuddio cefnogwyr pêl-droed sy’n teithio i Gwpan y Byd yn ddiweddarach eleni y gallen nhw gael eu harestio oni bai eu bod nhw’n ymgyfarwyddo ag arferion y wlad – gan gynnwys eu gwrthwynebiad i bobol o’r gymuned LHDTC+.

Mae disgwyl i filiynau o gefnogwyr, gan gynnwys cefnogwyr o Gymru, heidio i Qatar ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, ac mae prinder gwestai a llefydd eraill i aros yn debygol o achosi trafferthion i nifer fawr o bobol, gyda phobol yn teithio o wledydd cyfagos fel yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman a Bahrain.

Yn sgil y mewnlifiad sylweddol yma, mae Detained in Doha yn derbyn llu o negeseuon yn gofyn pa mor ddiogel fydd Qatar yn ystod y gystadleuaeth bêl-droed ryngwladol fwyaf yn y byd.

Wrth ymateb, mae Radha Stirling, Prif Weithredwr Detained in Doha a Detained in Dubai, yn dweud bod ganddyn nhw “bryderon difrifol” am y sefyllfa.

“Er bod Dubai yn aml yn ganolbwynt beirniadaeth ynghylch camarestiadau a chyfnodau hir yn y ddalfa, mae Qatar yn dilyn yr un patrymau ac maen nhw’n ymosodol iawn wrth weithredu’r gyfraith ac wrth fynd ar ôl trigolion o dramor,” meddai.

“Bydd y rheiny yr honnir eu bod nhw wedi torri’r gyfraith yn wynebu cael eu cadw’n hir ac yn annheg, diffyg cefnogaeth gonswlaidd, system gyfiawnder is na’r safon ddisgwyliedig a chyfreithwyr drud.

“Ar un ystyr, mae Qatar yn poeni llai am eu delwedd ryngwladol.

“Maen nhw wedi wynebu beirniadaeth helaeth gan gymdogion Arabaidd a sefydliadau hawliau dynol yn sgil eu cefnogaeth honedig i frawychiaeth a’u hymdriniaeth o fudwyr sy’n gweithio, gan eu gwneud nhw’n fwy gwydn.

“Mae nifer o drigolion Prydeinig ac o dramor wedi wynebu camdriniaeth hawliau dynol o fewn Qatar, ac maen nhw’n dal i gael eu cadw yn y ddalfa am droseddau nad ydyn nhw wedi’u cyflawni.

“Mae gan bwysigion lleol â ‘Wasta’ (dylanwad yn sgil adnabod pobol bwysig) gryn ddylanwad dros weithredu’r gyfraith yn lleol a thros farnwyr.

“Rydyn ni wedi gweld y ffordd y cafodd hediad o Awstraliaid eu trin, eu dinoethi a’u chwilio a’u camdrin gan awdurdodau lleol.

“Dylai’r driniaeth hon fod yn arwydd o ddiffyg aeddfedrwydd a rheolau a gweithdrefnau o fewn gweithredu’r gyfraith.”

‘Materion dibwys’

“Mae twristiaid wedi wynebu cael eu cadw yn y ddalfa am faterion dibwys fel cael alcohol yn eu system, ymddygiad ‘haerllug’ sy’n aml yn wahaniaethau diwylliannol neu’n wrthrychol o ran eu natur, ffrae â gwesty, cwmnïau llogi ceir neu fusnesau eraill, a honiadau ffug gan bobol leol fileinig,” meddai Radha Stirling wedyn.

“Cafodd Conor Howard ei arestio am fod â thorrwr perlysiau newydd sbon yn ei fagiau, cafodd ei ryddhau’n ddiweddarach a’i osod ar gronfa ddata Interpol a achosodd iddo gael ei gadw yn y ddalfa yng Ngroeg am rai misoedd.

“Mae modd i Qatar roi Hysbysiadau Coch am y rhesymau lleiaf, a byddan nhw’n mynd ar ôl eu targedau’n ddiflino.

“Mae’r rhan fwyaf o lysgenadaethau yn Qatar yno i hybu cydberthnasau masnach.

“Ar y cyfan, dydyn nhw ddim yn cefnogi trigolion sy’n wynebu camdriniaeth gyfreithiol neu hawliau dynol, ac ni ddylid disgwyl cymorth.”

LHDTC+

Pryder arall yw’r ffordd mae Qatar yn trin pobol o’r gymuned LHDTC+.

Yn ôl Radha Stirling, mae pobol o’r gymuned eisoes wedi cael eu gwrthod gan westai, ac mae’n rhybuddio pobol i wneud popeth o fewn eu gallu i guddio’u rhywioldeb.

“Mae gwrywgydiaeth yn anghyfreithlon, a gall y gosb fod yn ddifrifol ar draws y Dwyrain Canol i gyd,” meddai.

“Dylid cymryd gofal i ddileu unrhyw ffotograffau neu fideos di-gêl cyn teithio, gan y gall y rhain arwain at gael eich arestio pe baen nhw’n cael eu canfod.

“Bydd rhegi, colli tymer ar y ffordd neu ymddygiad bygythiol yn arwain at gael eich arestio a’ch cadw am gyfnod hir.

“Yn aml, caiff yr honiadau eu creu gan y sawl sy’n eu gwneud nhw, ond pe bai e neu hi’n cwyno’n gyntaf, bydd eu fersiwn nhw’n cael ei ffafrio.

“Pe bai ymwelwyr mewn lleoliad lle caiff rhywun ei ganfod â chyffuriau, gallai’r heddlu arestio pawb yn y lleoliad hwnnw.

“Pe bai rhywun yn cael ei gyhuddo o symud pobol, gellid cyhuddo ffrindiau neu grwpiau jyst am fod yn yr ardal.

“Dylai ymwelwyr fod yn ofalus wrth fod yn bresennol ar y cyfryngau cymdeithasol a hyd yn oed mewn cyfathrebiadau preifat ar WhatsApp neu negeseuon testun.

“Gall unrhyw beth sy’n sarhaus i rywun sy’n digwydd mynd heibio neu’r sawl sy’n ei dderbyn arwain at gwynion i’r heddlu.

“Dylai Prydeinwyr ystyried a ydyn nhw eisiau cefnogi cyfundrefn sydd wedi carcharu a chamdrin pobol fel Jonathan Nash, Joe Sarlak a Ranald Crook.

“Mae’r gyfundrefn wedi camddefnyddio cronfa ddata Interpol i bwyso ar drigolion Prydeinig a cheisio’u carcharu yn Ewrop fel modd o aflonyddu arnyn nhw.

“Mae gwledydd sy’n trin tramorwyr â’r fath ddirmyg yn berygl i’r sawl sy’n teithio, a gall ymweliad fod yn docyn un ffordd.”