Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n darlledu Gemau’r Gymanwlad am y tro cyntaf erioed eleni, gyda rhaglenni uchafbwyntiau’n cael eu dangos bob nos.
Bydd yr arlwy yn cychwyn ar nos Iau (Gorffennaf 28) gyda rhaglen awr yn edrych ymlaen at y gemau.
O nos Wener (Gorffennaf 29) ymlaen, bydd S4C yn dangos rhaglenni hanner awr yn cynnwys uchafbwyntiau, y newyddion diweddaraf, a’r holl straeon o dîm Cymru.
Mae tîm o 199 o athletwyr yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham eleni.
Catrin Heledd a Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno’r cyfan, gyda Heledd Anna a Tina Evans yn gohebu yn Birmingham, a Gareth Rhys Owen a Gareth Roberts yn sylwebu ar y campau.
“Mae Gemau’r Gymanwlad yn dod o gwmpas bob pedair blynedd ac yn gyfle arbennig i athletwyr Cymru gynrychioli’r Ddraig Goch,” meddai Catrin Heledd.
“Mae’n gyfle i sêr newydd ddod i’r amlwg a chystadleuwyr profiadol ddangos eu doniau ar y llwyfan mawr, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pwy fydd yn serennu y tro hwn.
“Mi fyddan ni’n dilyn tîm Cymru yn agos iawn ac yn dod â’r holl gyffro o Birmingham, felly gobeithio gallwch chi ymuno â ni bob nos.”
“Torri tir newydd”
“Rydyn ni’n torri tir newydd ar S4C drwy ddarlledu o Gemau’r Gymanwlad,” meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C.
“Bydd ein rhaglenni nosweithiol yn cynnig cyfle i gadw fyny efo hanes Tîm Cymru yn Birmingham yn ogystal â rhannu’r achlysur rhyngwladol arbennig hwn gyda’r gwylwyr gartref.
“Mae’r gemau yn golygu lot fawr i gymaint o athletwyr Cymru ac mi fyddan ni yno bob dydd i ddangos y gorau o’r cystadlu.
“Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan.”
Cyfres o ffilmiau byr
Bydd cyfres o ffilmiau byr, Chwedloni, yn cael eu dangos yn yr wythnosau yn arwain at y gemau, yn rhannu profiadau rhai o’r unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r gemau.
Ar drothwy’r gemau, ar Nos Fawrth (Gorffennaf 26), bydd S4C yn darlledu ffilm arbennig, Cymry’r Gemau, sydd yn dilyn pum aelod o dîm Cymru, wrth iddyn nhw baratoi at y gystadleuaeth.
Bydd y ffilm yn dilyn y taflwr disgen Aled Siôn Davies, y triathletwraig Non Stanford, y bowlwraig lawnt Anwen Butten, a’r efeilliaid sy’n cystadlu yn y bocsio, Garan ac Ioan Croft, gan gynnig cipolwg ar fywydau’r pump a’r hyn mae’n cymryd i gystadlu ar y lefel uchaf.
- Bydd bob rhaglen ymlaen am 10.00yh, gan ddechrau ar Orffennaf 29, oni bai am y dyddiau rhwng Awst 3 ac Awst 5, a fydd yn dechrau am 10.30yh.