Mae Geraint Thomas yn dweud ei fod yn barod am Tour de France y penwythnos hwn, ac mae’n credu fod gan dîm Ineos Grenadiers “gymysgedd da o brofiad ac ieuenctid”.

Bydd e’n un o ddau Gymro yn nhîm Ineos Grenadiers sy’n dechrau’r daith yn Copenhagen ddydd Gwener (Gorffennaf 1) gyda Luke Rowe hefyd yn dod o Gaerdydd.

Bydd y ddau yno i gefnogi arweinwyr y tîm Adam Yates a Dani Martinez, er bod statws Geraint Thomas yn golygu y bydd yn cymryd yr awenau o’r naill neu’r llall pe baent yn cael eu hanafu.

Ef yw’r unig Gymro i ennill y gystadleuaeth, pan ddaeth i’r brig yn 2018.

Bydd y 21 cam yn cael eu dangos yn fyw o 3 y prynhawn ac ar ffurf uchafbwyntiau nosweithiol ar S4C am 10 o’r gloch.

“Tîm cryf iawn”

“Mae gennym dîm cryf iawn a’r prif beth yw ein bod yn reidio’n dda gyda’n gilydd, sef yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn a gobeithio y gallwn barhau â hynny,” meddai Geraint Thomas.

“Rwy’n credu bod angen i ni fod yn ymosodol a chymryd yr wythnos gyntaf.

“Mae llawer yn dibynnu ar y tywydd, ond rwy’n credu ein bod yn y meddylfryd o fynd i mewn i’r ras a chymryd ein cyfleoedd.

“Mae’r wythnos gyntaf yn mynd i fod yn anodd, ond mae gennym ni’r seiclwyr yma i wneud yn dda.

“Dwi’n meddwl bod yr wythnos gyntaf yn siwtio fi, efallai yn fwy na rhai bois eraill, ond gall cymaint fynd yn iawn neu’n anghywir fel y gwyddom.

“Mae’n gyffrous, mae gennym gymysgedd da o brofiad ac ieuenctid ac ymddygiad ymosodol, a bydd yn rhaid i ni weld sut rydyn ni’n mynd.”