Bydd blaenasgellwr Caerlŷr, Tommy Reffell yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn De Affrica yn Pretoria ddydd Sadwrn (Gorffennaf 2), gyda’r gic gyntaf am 4:05 y prynhawn.

Hon fydd y gyntaf o dair gêm brawf yn erbyn pencampwyr y byd.

Bydd y gŵr 23 oed yn dechrau yn y rheng ôl gyda Dan Lydiate a Taulupe Faletau.

Mae George North yn dechrau ar ôl dychwelyd o anafiadau hirdymor.

Kieran Hardy sy’n dechrau fel mewnwr, tra bod Alun Wyn Jones ar y fainc.

Dan Biggar fydd y capten ar ôl cymryd yr awenau yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn sgil anaf Alun Wyn.

Bydd Cymru yn chwarae ail gêm brawf yn erbyn y Springboks yn Bloemfontein ar Orffennaf 9 cyn teithio i Cape Town ar gyfer y prawf olaf ar Orffennaf 16.

Mae pob gêm yn fyw ar Sky Sports a bydd uchafbwyntiau estynedig ar S4C bob nos Sadwrn am naw.

Tîm Cymru:

Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar (Capten), Kieran Hardy; Gareth Thomas, Ryan Elias, Dillon Lewis, Will Rowlands, Adam Beard, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Dewi Lake, Rhys Carre, Tomas Francis, Alun Wyn Jones, Josh Navidi, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Owen Watkin.

Tîm De Affrica:

Damian Willemse; Cheslin Kolbe, Lukhanyo Am, Damian de Allende, Makazole Mapimpi; Elton Jantjies, Faf de Klerk; Ox Nché, Bongi Mbonambi, Frans Malherbe, Eben Etzebeth, Lood de Jager, Siya Kolisi (capt), Franco Mostert, Jasper Wiese.

Eilyddion: Malcolm Marx, Steven Kitshoff, Vincent Koch, Salmaan Moerat, Elrigh Louw, Kwagga Smith, Herschel Jantjies, Willie le Roux.