Tarodd Billy Root 99 heb fod allan ar fore ola’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn New Road yng Nghaerwrangon wrth i’r sir Gymreig ennill o dair wiced – eu pedwaredd buddugoliaeth yn y gystadleuaeth y tymor hwn.
Cafodd Root ei gefnogi’n gadarn gan Michael Neser, a darodd 26 heb fod allan.
100 o rediadau oedd eu hangen ar Forgannwg ar ddechrau’r diwrnod olaf, gan ddechrau ar 232 am bump gyda Billy Root wrth y llain heb fod allan ar 46, ac fe gyrhaeddodd ei hanner canred cyn colli’i bartner James Harris, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Joe Leach am bedwar.
Erbyn hynny, gyda Tom Cullen yn dod i’r llain, roedd Joe Root heb fod allan ar 65 ar ôl cyrraedd ei hanner canred oddi ar 99 o belenni gydag ergyd am bedwar drwy’r cyfar.
Ychwanegon nhw 38 cyn i Swydd Gaerwrangon waredu Cullen â chwip o ddaliad isel ag un llaw gan Tom Fell, yr eilydd cyfergyd, yn y slip oddi ar fowlio Joe Leach am 16, a’r sgôr yn 293 am saith gyda dim ond y bowlwyr i fatio i Forgannwg.
Cafodd Michael Neser ei ollwng gan Ed Barnard oddi ar ei fowlio’i hun yn fuan wedyn, ac fe aeth yn ei flaen i chwarae’n ymosodol gan daro tair ergyd i’r ffin mewn pelawd oddi ar yr un bowliwr.
Roedd Morgannwg yn edrych yn ddigon cyfforddus ar ôl hynny, ac mae tymor siomedig Swydd Gaerwrangon yn parhau.
Manylion y gêm
Talodd penderfyniad Morgannwg i fowlio’n gyntaf ar ei ganfed wrth iddyn nhw fowlio Swydd Gaerwrangon allan am 271 yn eu batiad cyntaf, er i Ed Barnard daro 131, gyda thair wiced yr un i Michael Neser a James Harris.
Dim ond Eddie Byrom gyfrannodd gyda’r bat yn y batiad cyntaf, gyda 57 wrth i Forgannwg ymateb gyda 139 i gyd allan i roi blaenoriaeth swmpus i’r Saeson.
199 sgoriodd Swydd Gaerwrangon yn eu hail fatiad, gyda Jake Libby, gynt o Brifysgol Caerdydd, yn brif sgoriwr gyda 49 wrth i Neser gipio pedair wiced i orffen gyda saith yn yr ornest, ac roedd tair wiced arall i Hogan.
332 oedd y nod i Forgannwg, felly, a tharodd Colin Ingram 102 ar y trydydd diwrnod i osod y seiliau, cyn i Root barhau â’r batio cadarn ac arwain Morgannwg i fuddugoliaeth ar y pedwerydd bore cyn cinio.