Bythefnos yn unig ar ôl taro 178 yn erbyn Sussex – ei ganred cyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf i Forgannwg ers 2017 – tarodd Colin Ingram ganred ar drydydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth yng Nghaerwrangon, gyda’r ornest yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn y fantol.

Roedd Swydd Gaerwrangon yn 147 am chwech yn eu hail fatiad ar ddechrau’r trydydd diwrnod – ar y blaen o 279 – ac roedd hi’n ymddangos fel pe bai gan Forgannwg gryn her o’u blaenau i achub yr ornest.

Ond diolch i fatio campus Ingram, sy’n chwarae mewn gemau pêl goch yn absenoldeb yr Awstraliad Marnus Labuschagne am weddill y tymor, mae gan Forgannwg fwy na llygedyn o obaith o fynd adref â’r fuddugoliaeth.

Wrth gwrso 332 am y fuddugoliaeth, fe orffennon nhw’r diwrnod ar 232 am bump, ar ôl partneriaeth o 95 rhwng Billy Root ac Ingram, oedd allan yn y pen draw am 102, gyda Root yn dal wrth y llain ar 46.

Y trydydd bore

Roedd oedi o bum munud ar ddechrau’r trydydd diwrnod, a hynny oherwydd y golau gwael ar ôl i’r chwaraewyr ddod i’r cae, ond dechreuodd Morgannwg yn gadarn wedyn, gan gipio wicedi Gareth Roderick, a gafodd ei ddal yn y slip gan Colin Ingram oddi ar fowlio Michael Neser, a Joe Leach, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio Michael Hogan i adael Swydd Gaerwrangon yn 166 am wyth ond gyda blaenoriaeth swmpus eisoes.

Ychwanegodd Josh Baker a Charlie Morris 33 am y nawfed wiced i ymestyn blaenoriaeth Swydd Gaerwrangon ymhellach, cyn i Morris gael ei fowlio gan y troellwr Andrew Salter am 29, a’r sgôr yn 199 am naw, gyda Dillon Pennington wedi’i ddal gan y bowliwr oddi ar y belen ganlynol i adael nod o 332 i Forgannwg.

Cwympodd pedair wiced ola’r Sseson am 52 rhediad mewn 13.4 pelawd, gyda Michael Neser yn cipio dwy ohonyn nhw i orffen gyda saith wiced am 90 ar draws y ddau fatiad, ac yntau bellach wedi cipio 32 wiced yn y Bencampwriaeth eleni.

Dim ond Toby Roland-Jones o Middlesex a Matty Potts o Durham sydd wedi cipio mwy o wicedi yn yr ail adran.

Cipiodd y wicedwr Tom Cullen wyth daliad yn yr ornest, ac mae’n bosib y bydd angen iddo fe fatio o hyd.

Morgannwg yn cwrso

Er bod digon o amser ar ôl yn yr ornest – 80 pelawd ar y trydydd diwrnod a diwrnod olaf llawn – roedd hi’n ymddangos y byddai’r nod o 332 yn gryn her i Forgannwg ar lain sydd wedi cynnig cryn dipyn o gymorth i’r bowlwyr ac yn sgil chwalfa’r batiad cyntaf.

Cafodd David Lloyd rywfaint o lwc yn ystod pelawd gynta’r batiad, wrth iddo fe gael ei ollwng oddi ar y bedwaredd pelen yn y slip gan Josh Baker oddi ar fowlio Joe Leach, ond dim ond 13 sgoriodd e cyn gyrru at Brett D’Oliveira ar yr ochr agored oddi ar fowlio Charlie Morris am 13, a’r sgôr yn 21 am un.

Byddai Morgannwg wedi bod yn ddigon bodlon wrth gyrraedd 36 am un erbyn amser cinio, gyda phum sesiwn yn weddill i gwrso’r 296 arall.

Roedd Byrom ac Ingram yn edrych yn gadarn ar ddechrau’r prynhawn yn erbyn bowlio digon cyffredin Swydd Gaerwrangon, ac fe gymerodd hi ergyd ddiangen i dorri’r bartneriaeth o 57 ac i waredu Byrom, wrth iddo sgubo’r troellwr llaw chwith Josh Baker at Ed Barnard yn y slip am 32, a’r sgôr yn 78 am ddwy.

Fe wnaeth Byrom ac Ingram danlinellu’r ffaith y byddai partneriaethau’n allweddol pe bai Morgannwg am lwyddo i gwrso’r nod, ac roedd ganddyn nhw obaith o adeiladu ar y seiliau tra bod Northeast ac Ingram gyda’i gilydd.

Ond daeth batiad Northeast i ben ar 13, wrth iddo ergydio’n hwyr oddi ar belen ddigon llydan, a darganfod dwylo diogel Dillon Pennington yn safle’r trydydd dyn oddi ar fowlio Morris, a’r sgôr yn 109 am dair.

Gyda Kiran Carlson ben draw’r llain, cyrhaeddodd Ingram ei hanner canred yn fuan ar ôl yr egwyl, ond pump yn unig sgoriodd Carlson cyn cael ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Dillon Pennington, a’r sgôr yn 133 am bedair.

Wrth i Forgannwg ddechrau rhedeg allan o fatwyr cydnabyddedig, roedd dirfawr angen partneriaeth fawr arnyn nhw os oedden nhw am ddod yn agos i’r nod, ac roedd eu tynged bellach yn nwylo Ingram a Billy Root, dau fatiwr llaw chwith oedd wedi methu â sgorio’n drwm yn y batiad cyntaf.

Adeiladodd Root ac Ingram bartneriaeth o 95 am y bumed wiced, cyn i Ed Barnard daro coes Ingram o flaen y wiced am 102 i adael Morgannwg yn 232 am bump, gyda 100 yn weddill i’w sgorio.

Ond roedd y penderfyniad yn erbyn Ingram yn ymddangos yn un annheg, gyda’r bêl wedi glanio y tu allan i’r wiced cyn taro’i goes.

Sgorfwrdd

Chwe wiced i Joe Leach wrth i Forgannwg frwydro i achub yr ornest yng Nghaerwrangon

Mae gan y tîm cartref flaenoriaeth ail fatiad o 279 ar ddiwedd yr ail ddiwrnod

Morgannwg dan bwysau wrth i Swydd Gaerwrangon daro’n ôl yn New Road

32 am dair yn eu batiad cyntaf wrth ymateb i 271 y tîm cartref yng Nghaerwrangon

Morgannwg yn troi eu sylw yn ôl i’r Bencampwriaeth

Maen nhw’n herio Swydd Gaerwrangon yn y gêm pedwar Diwrnod sy’n dechrau heddiw (dydd Sul, Mehefin 26)