Ar ddiwrnod digon llwyddiannus i dîm criced Morgannwg, tarodd Ed Barnard yn ôl gyda chanred i achub Swydd Gaerwrangon ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth ar gae New Road yng Nghaerwrangon.

Ar ôl llithro i 63 am bump, adeiladodd Barnard bartneriaeth allweddol o 120 gyda Gareth Roderick i achub y sefyllfa i’r tîm cartref ac roedden nhw’n 271 i gyd allan, a gorffennodd Morgannwg y diwrnod ar 32 am dair yn eu batiad cyntaf.

Talodd penderfyniad Morgannwg i fowlio’n gyntaf ar ei ganfed, wrth iddyn nhw gipio pum wiced yn ystod sesiwn y bore ar lain fywiog.

Fe wnaethon nhw waredu’r agorwyr Ed Pollock a Jake Libby o fewn pedair pelawd ar lain fywiog.

Cafodd Pollock ei fowlio oddi ar belen gynta’r ornest gan Michael Neser, cyn i Libby gael ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen wrth chwarae ergyd amddiffynnol oddi ar Michael Hogan, ac roedd y tîm cartre’n wyth am ddwy.

Cafodd Azhar Ali, y batiwr tramor o Bacistan, ei ollwng gan Sam Northeast yn y slip ar 21 oddi ar fowlio’r capten David Lloyd ond wnaeth e ddim ychwanegu at ei sgôr cyn cael ei ddal i lawr ochr y goes gan Cullen oddi ar fowlio Lloyd, a’r cyfanswm yn 48 am dair ychydig ar ôl awr i mewn i’r ornest.

Aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth i Swydd Gaerwrangon, wrth i James Harris daro Brett D’Oliveira ar ei goes o flaen y wiced am dri, a’r sgôr yn 57 am bedair, ac roedden nhw’n 63 am bump pan gollodd Taylor Cornall ei wiced yn yr un modd ag Azhar Ali, gyda Cullen a Lloyd yn cyfuno unwaith eto.

Roedd arwyddion fod y batiad am sefydlogi unwaith eto erbyn amser cinio, wrth i Ed Barnard a Gareth Roderick lywio’r tîm cartref i 84 am bump ac erbyn i gawod o law orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae ar gyfer te cynnar, roedden nhw’n 172 am bump gyda Barnard ar 68 a Roderick ar 42.

Fe wnaeth y seibiant fyd o les i Forgannwg, wrth i James Harris fowlio Gareth Roderick am 46 i ddod â’r bartneriaeth o 120 gydag Ed Barnard i ben gyda’r sgôr yn 183 am chwech, ac roedden nhw’n 206 am saith pan darodd Joe Leach belen gan Michael Hogan at Andrew Salter yn sgwâr ar yr ochr agored am 12.

Fe wnaeth James Harris ddarganfod bywyd yn y llain wrth waredu Josh Baker gyda phelen uchel a roddodd ddaliad i’r wicedwr Cullen, a’r sgôr yn 227 am wyth.

Ar ôl goroesi’r cyfle am ddaliad ar 123, cafodd Barnard ei daro ar ei ben a’i ollwng gan Michael Hogan oddi ar ei fowlio’i hun yn yr un belawd ar 124, cyn cael ei fowlio gan Neser wrth chwarae ergyd wyllt ar 131 gyda Swydd Gaerwrangon yn 268 am naw.

Roedden nhw i gyd allan am 271 pan roddodd Charlie Morris bumed daliad i Cullen a thrydyedd wiced i Neser, gyda James Harris hefyd yn cipio tair wiced yn y batiad.

Batiad cyntaf Morgannwg

Roedd gan Forgannwg naw pelawd i’w goroesi ar ddiwedd y dydd, ond cafodd y capten David Lloyd ei ddal yn y slip gan Pollock oddi ar fowlio Leach gyda thrydedd pelen y batiad, a’r sgôr yn bedwar am un ar ôl iddo daro pelen gynta’r batiad am bedwar.

Roedden nhw’n 12 am ddwy pan gafodd y noswyliwr James Harris ei ddal gan Barnard yn y slip oddi ar fowlio Leach am wyth ar ôl taro dwy ergyd i’r ffin, ac roedd gwaeth i ddod pan darodd Leach goes Colin Ingram o flaen y wiced a’r sgôr yn 18 am dair.

Goroesodd Sam Northeast gyfle am ddaliad yn y slip gan Taylor Cornall ac roedd e’n dal wrth y llain gydag Eddie Byrom ar ddiwedd y dydd.

“Dwi ddim yn golygu unrhyw amharch i James Harris, ond rydyn ni fwy na thebyg ond dwy wiced i lawr,” meddai’r wicedwr Tom Cullen wrth golwg360 ar ddiwedd y dydd.

“Bowlion ni’n dda yn y bore i’w cael nhw’n bump am 50 ac mae’n bosib gawson nhw ychydig yn ormod yn y prynhawn, mwy nag y bydden ni wedi hoffi, ond mae hi’n dal yn weddol gyfartal o ran yr ornest.

“Mae bore fory’n amlwg yn mynd i fod yn sesiwn fawr i ni, [rhaid i ni] gyfyngu ar y niwed gyda’r bêl newydd a gobeithio wrth i’r bêl feddalu gallwn ni fwrw iddi yn y prynhawn.

“Chwaraeodd [Ed Barnard] yn dda iawn, wnaeth e ddim wir rhoi unrhyw gyfle i ni.

“Weithiau mae’n rhaid i chi roi eich dwylo i fyny, yn enwedig ar lain fel hon, a dweud ‘Da iawn, chwarae teg’.

“Mae angen i rywun wneud hynny i ni fory, gobeithio dau foi, a bydd hynny’n allweddol i ni, cael cwpwl o’r bois i mewn a batio ymlaen.”

Ychwanegodd ei bod hi’n “braf” cael pum daliad yn y batiad.

“Dw i ddim yn meddwl bod yr un ohonyn nhw’n anodd iawn, felly byddai wedi bod yn siomedig eu gollwng nhw ond pob clod i’r bowlwyr am y ffordd wnaethon nhw fowlio, a dim ond gwneud fy ngwaith wnes i.

“Ychydig iawn o gyfleoedd dw i’n eu cael, ond y cyfan alla i ei wneud yw sicrhau fy mod i’n gwneud y pethau iawn pan dw i’n chwarae, a gobeithio fy mod i wedi gwneud hynny heddiw a fy mod i’n mynd i mewn fory ac yn sgorio rhediadau.”

Sgorfwrdd

Morgannwg yn troi eu sylw yn ôl i’r Bencampwriaeth

Maen nhw’n herio Swydd Gaerwrangon yn y gêm pedwar Diwrnod sy’n dechrau heddiw (dydd Sul, Mehefin 26)