Fel rhan o bartneriaeth gyda chorff Criced Cymru, mae golwg360 yn teithio i rai o glybiau Cymru i roi sylw i griced ar lawr gwlad a rôl y Gymraeg yn y clybiau hyn. Yr wythnos hon, Clwb Criced Crymych sydd dan sylw.
Bron ddeng mlynedd union yn ôl, roedd Clwb Criced Crymych yn y newyddion yn sgil yr ymateb i’w defnydd o’r Gymraeg ar y cae yn ystod gêm yn erbyn Llandyfái yng nghynghrair Sir Benfro.
Ond yn ôl Rhodri Lewis, sy’n gadeirydd ac ysgrifennydd y clwb, mae agweddau tuag at y Gymraeg wedi gwella tipyn yn ystod y cyfnod hwn – ac mae hynny’n sicr yn beth da o ystyried mor Gymraeg yw Clwb Criced Crymych erbyn hyn.
“Mae tipyn o gefnogaeth gyda ni, ac mae’r iaith Gymraeg yn helpu,” meddai.
“Ni’n gwneud rhan fwya’ o’r stwff yn Gymraeg ac mae hwnna’n adlewyrchu ac yn helpu’r gymuned.
“Mae rhyw dri o chwaraewyr sydd ddim yn siarad Cymraeg gyda ni, ond fel arfer maen nhw’n weddol gyffyrddus. Mae un ohonyn nhw’n dysgu Cymraeg, felly’r prif iaith yw Cymraeg.”
Ar y cyfan, prin yw’r timau eraill yn y gynghrair sy’n defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith, neu sydd â chwaraewyr sy’n siarad Cymraeg.
“I fod yn onest, amser ry’n ni’n chwarae yn erbyn rhywun fel Llandysul maen nhw’n weddol Gymraeg ond heblaw ni, mae ambell dîm ag ambell siaradwr Cymraeg gyda nhw ond fydden i ddim yn dweud bod lot fawr,” meddai Rhodri Lewis.
“Mae’n helpu ar y cae i allu dweud pethau yn y Gymraeg.
“Dyna’r unig anfantais, sbo, bod un neu ddau yn cwestiynu beth ry’n ni’n dweud ond mae e wedi gwella lot.
“Mae dal ambell comment, ond mae e wedi gwella ar hyd y blynyddoedd, fydden i’n meddwl.”
Y Gymraeg yn perthyn i bawb
Yn ogystal â’r rhai sy’n dod o Grymych ac a gafodd eu magu yno, mae gan y tîm criced un unigolyn o Sir Henffordd ac un arall o Seland Newydd yn eu plith.
Ac maen nhw wedi amgyffred yr iaith, yn ôl Rhodri Lewis.
“Mae un ohonyn nhw o Hereford,” meddai.
“Symudodd e ryw ddeng mlynedd yn ôl, a dros Covid mae e wedi dechrau dysgu Cymraeg, jyst i ddeall ambell i air, ac ry’n ni’n ei helpu fe i ddysgu geiriau.
“Ac mae un arall o Seland Newydd.
“Mae plant gyda fe yn yr ysgol Gymraeg leol, ac mae’r teulu’n eithaf ymwybodol o’r Gymraeg.”
Gyda’r clwb criced yn rhan ganolog o gymuned Crymych, mae Rhodri Leiws yn dweud bod y gymuned honno’n gefnogol iawn iddyn nhw, yn enwedig wrth drefnu digwyddiadau i godi arian er mwyn sicrhau parhad y clwb.
“Ni newydd gael noson bingo tua mis yn ôl ac fel arfer, ry’n ni’n gwneud raffl y flwyddyn, mae Clwb 100 gyda ni ac yn achlysurol, rydyn ni’n trefnu cyngerdd ac ati,” meddai.
“Ni’n eithaf ffodus bo ni’n cael lot o bobol yn dod i’r noson bingo a phopeth.
“Ni’n ffodus o’r gymuned i gyd rili.
“Mae tipyn o gefnogaeth gyda ni, ac mae’r iaith Gymraeg yn helpu. Ni’n gwneud rhan fwya’ o’r stwff yn y Gymraeg ac mae hwnna’n adlewyrchu ac yn helpu’r gymuned.”
Y dyfodol
Does gan y clwb ddim tîm ieuenctid ar hyn o bryd, ond mae Rhodri Lewis yn ddigon ffyddiog y bydd yn dychwelyd yn y dyfodol.
Bydd hynny, yn ei dro, yn sicrhau y gall y clwb barhau i fod yn un Cymraeg ar y cyfan hefyd, gyda nifer fawr o’r cyn-aelodau’n Gymry Cymraeg.
“Y chwaraewyr wedd gyda ni, wen nhw i gyd yn mynd i ysgolion Cymraeg lleol a wedyn o ran y coaches, wen ni i gyd yn siarad Cymraeg,” meddai, gan egluro pam fod y tîm ieuenctid wedi dod i ben am y tro.
“Wedd tipyn gyda ni ond dros y blynyddoedd diwetha’, rhwng bo ni’n stryglo i ffeindio gwirfoddolwyr o ran hyfforddi a’r chwaraewyr yn mynd yn llai hefyd, penderfynon ni yn y diwedd i roi e lan am eleni.
“Gwirfoddolwyr, dyna’r prif beth ry’n ni’n stryglo gyda fe.
“Ni fel arfer yn dibynnu ar y chwaraewyr neu’r aelodau sydd ar y pwyllgor neu sy’n chwarae i’r tîm cyntaf, a dyna’r ffordd orau o gael gwirfoddolwyr dros y blynyddoedd.
“Mae rygbi a phêl-droed yn eitha’ cryf yng Nghrymych nawr, a rhwng bod pethau eraill gyda phobol, plant a phopeth, dyna’r prif heriau.”