Mae tîm criced Morgannwg wedi colli o 16 rhediad yn erbyn Gwlad yr Haf mewn gornest saith pelawd yn y Vitality Blast.

Dechreuodd y gêm ddwy awr yn hwyr yn sgil y glaw, ac fe wnaeth Morgannwg wahodd yr ymwelwyr i fatio.

Cipiodd Michael Neser dair wiced am 19 yn ei ddwy belawd a Prem Sisodiya ddwy wiced am 19 wrth i’r Saeson sgorio 75 am chwech, gyda Tom Abell (26) yn brif sgoriwr.

Ond roedd Morgannwg dan bwysau o ddechrau’r batiad wrth gwrso 76 i ennill.

Collon nhw wicedi’n rhy aml ac er i Colin Ingram (37 heb fod allan) frwydro’n galed, y Saeson sy’n mynd adref â’r pwyntiau.

Dwy gêm sy’n weddill, ac mae Morgannwg yn chweched, a phedwar pwynt islaw’r pedwar uchaf hollbwysig gyda dim ond pedwar pwynt ar gael.