Taith i Gaerwrangon sydd gan Forgannwg ar gyfer y gêm Bencampwriaeth sy’n dechrau heddiw (dydd Sul, Mehefin 26).

Yn absenoldeb Chris Cooke, sydd ag anaf i’w goes, Tom Cullen fydd yn cadw wiced yn y gêm bêl goch am y tro cyntaf y tymor hwn.

Mae’r chwaraewr amryddawn Dan Douthwaite hefyd yn dychwelyd i’r garfan.

Mae Morgannwg yn drydydd yn yr ail adran, tra bod Swydd Gaerwrangon un pwynt y tu ôl iddyn nhw yn y pumed safle.

Dau chwaraewr fydd yn llawn hyder yw Colin Ingram ac Eddie Byrom, ar ôl iddyn nhw adeiladu record o bartneriaeth o 328 yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Sussex, gan ragori ar 291 Marnus Labuschagne a Nick Selman yn Hove yn 2019.

Bydd Morgannwg yn teithio heb eu prif hyfforddwr Matthew Maynard, sydd wedi profi’n bositif am Covid-19, a bydd y tîm dan arweiniad years is-hyfforddwr David Harrison unwaith eto.

O ran y gwrthwynebwyr, mae Joe Leach ac Ed Pollock yn dychwelyd i’r garfan.

Gemau’r gorffennol

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn New Road yng Nghaerwrangon ers 2019, pan gollon nhw o 155 rhediad wrth anelu am ddyrchafiad.

Ond roedden nhw’n fuddugol o naw wiced yn 2017, ar ôl adfer y sefyllfa ar ôl bod yn 76 am chwech ar ddiwedd y diwrnod cyntaf.

Adeiladodd Jacques Rudolph a Chris Cooke bartneriaeth o 168 am y seithfed wiced, ac Andrew Salter â Lucas Carey 124 am y nawfed wiced i droi’r gêm ar ei phen.

Sicrhaodd Michael Hogan y fuddugoliaeth wedyn o fewn tri diwrnod wrth gipio pum wiced am 38.

Y Cymro Cymraeg Owen Morgan oedd y seren yn 2016, wrth daro canred fel noswyliwr – ei ganred cyntaf i’r sir – i sicrhau buddugoliaeth o bum wiced, gyda Graham Wagg yn cipio pum wiced.

Ond y Saeson oedd yn fuddugol yn 2013 a 2014.

Carfan Swydd Gaerwrangon: E Pollock, J Libby, T Cornell, Azhar Ali, J Haynes, B D’Oliveira, E Barnard (capten), G Roderick, J Leach, J Baker, B Gibbon, D Pennington, C Morris

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), E Byrom, K Carlson, T Cullen, D Douthwaite, A Gorvin, J Harris, M Hogan, C Ingram, M Neser, S Northeast, B Root, A Salter, J Weighell

Sgorfwrdd