Mae Clwb Pêl-droed Stoke wedi cyhoeddi ymadawiad Joe Allen.

Mae chwaraewr canol cae Cymru’n gadael y clwb wrth i’w gytundeb ddirwyn i ben, ac ar ôl adroddiadau ei fod e wedi gwrthod llofnodi cytundeb newydd.

Fe fu gyda’r clwb ers chwe blynedd, gan chwarae 221 o gemau a sgorio 20 gôl ar ôl symud o Lerpwl wythnosau’n unig ar ôl cael ei enwi yn Nhîm Goreuon Ewro 2016.

Roedd Stoke wedi bod yn gobeithio ymestyn ei gytundeb y tu hwnt i Fehefin 30, a hynny yn dilyn sawl wythnos o drafodaethau.

Ond fe wnaeth e fynegi ei ddymuniad i adael y clwb cyn dechrau tymor 2022-23, gydag adroddiadau bod yr Elyrch yn awyddus i’w groesawu’n ôl i’r clwb lle dechreuodd ei yrfa.

Wrth gyhoeddi ei ymadawiad, fe wnaeth Michael O’Neill, rheolwr Stoke, ddymuno’n dda iddo, yn enwedig ar drothwy Cwpan y Byd gyda Chymru yn Qatar ar ddiwedd y flwyddyn.

‘Anodd gadael’

“Ar ôl chwe blynedd, mae’n anodd gadael ond dw i’n credu taw dyma’r amser iawn i fi a’r clwb gael gwahanu,” meddai.

“Mae cynifer o chwaraewyr a staff dw i wedi bod wrth fy modd yn gweithio gyda nhw ac sydd wedi’i gwneud hi’n bleser i fod gyda’r clwb.

“Dw i hefyd yn ddiolchgar i’r cefnogwyr hynny sydd ewdi cefnogi’r tîm drwy’r da ond hefyd yr amserau mwy anodd.

“Dw i’n hyderus gyda’r tîm rheoli a’r chwaraewyr presennol y bydd amserau cyffrous i ddod.

“Cofion gorau, Joe.”