Mae timau pêl-droed Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd wedi cael gwybod trefn eu gemau ar gyfer tymor 2022-23.

Bydd tymor Abertawe’n dechrau oddi cartref yn Rotherham, sydd newydd ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth, ar Orffennaf 30, gyda Blackburn yn ymweld ar gyfer gêm gartref gynta’r tymor.

Bydd yr Elyrch a Chaerdydd yn herio’i gilydd yn y ddarbi fawr yn Stadiwm Swansea.com ar Hydref 22 ac yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ebrill 1.

Taith i Reading sydd gan yr Elyrch ar Ddydd San Steffan, cyn i Watford lanio yng Nghymru ar gyfer gêm olaf 2022, gyda Burnley yn cyrraedd ar Ddydd Calan.

Am y tro cyntaf eleni, bydd seibiant yn ystod Tachwedd a Rhagfyr ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar.

Bydd tymor yr Elyrch yn dod i ben gyda gêm gartref yn erbyn West Brom ar Fai 6.

Caerdydd

Bydd Caerdydd yn croesawu Norwich i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm gynta’r tymor ar Orffennaf 30, cyn teithio i Reading ar Awst 6.

Queens Park Rangers fydd yn teithio i’r brifddinas ar Ddydd San Steffan, tra bydd Caerdydd yn mynd i Blackburn ar Ddydd Calan ar ôl teithio i Coventry ar Ragfyr 29.

Taith i Burnley fydd ganddyn nhw ar ddiwrnod ola’r tymor ar Fai 6, wythnos ar ôl herio Huddersfield gartref am y tro olaf.

Casnewydd

Bydd tymor Casnewydd yn dechrau oddi cartref yn Sutton ar Orffennaf 30, cyn iddyn nhw groesawu Walsall i Rodney Parade ar Awst 6.

Taith i Wimbledon fydd ganddyn nhw ar Ddydd San Steffan, cyn croesawu Leyton Orient dridiau’n ddiweddarach ar Ragfyr 29 a Crawley ar Ddydd Calan.

Bydd eu tymor yn gorffen gartref yn erbyn Crewe Alexandra ar Fai 6, wythnos ar ôl eu gêm oddi cartref olaf yn Gillingham ar Ebrill 29.