Mae Gemma Grainger, prif hyfforddwr tîm pêl-droed merched Cymru, yn gobeithio gallu llenwi Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer eu gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Slofenia ym mis Medi.

Mae merched Cymru yn gobeithio cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.

A gyda Chymru yn ail yn eu grŵp ar 16 o bwyntiau, a Slofenia yn y trydydd safle ar 14 o bwyntiau, gyda dwy gêm ar ôl i’w chwarae fe fydd y gêm hon yn un dyngedfennol.

Dywed Gemma Grainger fod hwn yn “gyfnod arbennig” i bêl-droed yng Nghymru ac mae hi’n gobeithio y gall ei thîm gymryd ysbrydoliaeth gan y dynion, sydd wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.

‘Mae yna rywbeth arbennig iawn am y wlad hon’

“Mae’n adeg wych i fod yn rhan o bêl-droed yng Nghymru, rydw i wedi teimlo hynny yn ystod y 12 mis diwethaf,” meddai Gemma Grainger.

“Mae’r hyn gyflawnodd y dynion wrth gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn rhoi’r iaith Gymraeg ar lwyfan y byd, ac yn rhoi eu tîm ar lwyfan y byd.

“Dw i’n meddwl mai manteisio ar hynny ym mhob dim rydyn ni’n ei wneud yw’r peth pwysicaf i ni.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Slofenia ym mis Medi.

“Dw i wedi bod i Stadiwm Dinas Caerdydd pan mae hi’n llawn, dw i ddim yn siŵr os gallwn ni lenwi Stadiwm Dinas Caerdydd ond hoffwn i drio fy ngorau.”