Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud mai eu huchelgais yw “creu cenedl bêl-droed flaenllaw” lle mae’r gêm yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn llwyddiannus.

Daw hyn wrth i’r Prif Weithredwr Noel Mooney gyhoeddi y bydd yr holl elw a ragwelir o wobr ariannol FIFA am gyrraedd Cwpan y Byd – £4m – yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol mewn cyfleusterau llawr gwlad ledled Cymru.

Mae hyn yn ddilyniant gam cyntaf rhaglen Cronfa Cyfleusterau Llawr Gwlad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai, gyda gwaith gwerth £3.2m yn dechrau ar 47 prosiect ledled y wlad.

Cafodd y Gronfa Cyfleusterau Llawr Gwlad ei datblygu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a buddsoddwyr randdeiliaid eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Chwaraeon Cymru, UEFA a FIFA.

Dros yr haf ac ar ddechrau’r hydref, bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi’r rowndiau nesaf o gyllid ar gyfer pêl-droed llawr gwlad, gan egluro sut gall sefydliadau wneud cais.

Manteisio ar gyrraedd Cwpan y Byd

“Wrth i ni anelu at greu cenedl bêl-droed flaenllaw, mae’n hanfodol bwysig fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’i phartneriaid cyllido yn camu i’r adwy ac yn manteisio’n llawn ar y cyfle mae cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn ei gynnig i ni,” meddai Noel Mooney.

“Mae cyfleusterau pêl-droed llawr gwlad ledled Cymru yn arbennig o wael, a’n prif amcan strategol yw mynd i’r afael â hyn nawr.

“Rydyn ni eisiau adeiladu clybiau llawr gwlad ledled Cymru sy’n gweithredu fel gofodau llesiant i’r gymuned, a gyrru mudiad pêl-droed Cymru yn ei flaen drwy iechyd, diwylliant, cerddoriaeth, iaith, cynaliadwyedd, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

“Allwn ni ddim gwneud hyn heb gymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ond heddiw rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad llwyr i daclo’r problemau cronig yng nghyfleusterau pêl-droed llawr gwlad Cymru er mwyn galluogi merched a bechgyn i chwarae pêl-droed mewn amodau addas.”

‘Cyfle mewn cenhedlaeth’

“Mae gennym ni un cyfle mewn cenhedlaeth i wella iechyd a llesiant y genedl, ar y cae ac oddi arno, drwy ddod at ein gilydd gyda’n haelodau a’n rhanddeiliaid i hyrwyddo, datblygu a gofalu am y bobol a fydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon o ganlyniad uniongyrchol i Gymru’n chwarae yn ei chystadleuaeth Cwpan y Byd gyntaf ers 1958,” meddai Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae gwella ein cyfleusterau llawr gwlad yn hanfodol ar gyfer hyn, fel bod modd i bêl-droed a champau eraill barhau i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.

“Dydyn ni ddim eisiau aros 64 mlynedd arall cyn i Gymru ymddangos yng Nghwpan y Byd eto.”

Mae Gareth Bale, capten Cymru, hefyd yn gweld y budd i glybiau llawr gwlad ar ôl i Gymru gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.

“Rydyn ni mor falch fod cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd hefyd yn golygu y bydd clybiau llawr gwlad ledled Cymru hefyd yn elwa, wrth i Cymdeithas Bêl-droed Cymru gefnogi datblygiad cyfleusterau ysbrydoledig sy’n addas at y pwrpas,” meddai.