Mae tîm criced Morgannwg wedi chwalu Middlesex o wyth wiced mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd, wrth i Sam Northeast (89) a’r capten David Lloyd (67) ychwanegu eu henwau i’r llyfrau hanes.

Roedd y tîm cartre’n cwrso nod o 172 i ennill, ac fe adeiladodd y pâr agoriadol 150 am y wiced gyntaf, sef y bartneriaeth fwyaf ar gyfer unrhyw wiced mewn gemau ugain pelawd i’r sir, gan drechu 141 Colin Ingram a Jacques Rudolph yn erbyn Surrey ar yr Oval yn 2015.

Roedd 58 yr agorwr Max Holden i’r ymwelwyr yn ofer, wrth i’w dîm golli wicedi’n rhy gyson ar ôl dechrau’n gryf, gyda Michael Hogan yn cipio tair am 28 yn ei bedair pelawd.

Ychwanegodd Joe Cracknell a Holden 66, ond cafodd Holden ei fowlio gan y troellwr llaw chwith Prem Sisodiya i chwalu gobeithion Middlesex o adeiladu ar y seiliau cadarn.

Sicrhaodd Martin Andersson sgôr digon parchus i’r Saeson, gydag 17 oddi ar bum pelen yn niwedd y batiad.

Ond dim ond 14.2 o belawdau oedd eu hangen ar Forgannwg i gyrraedd y nod yn y pen draw, diolch yn bennaf i’r 84 rhediad heb golli wiced yn ystod y cyfnod clatsio.

Cyrhaeddodd Lloyd a Northeast, ill dau, eu hanner canred oddi ar 23 o belenni ac erbyn i Lloyd golli’i wiced, roedd angen llai na thair y belawd ar Forgannwg i ennill.

Roedd Northeast yn edrych yn gwbl gyfforddus wrth glosio at ei ganred, ond daeth ei fatiad i ben 11 yn brin o’r garreg filltir wrth iddo fe gofnodi ei sgôr gorau erioed mewn gemau ugain pelawd.

Mae Morgannwg wedi ennill pedair gêm yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, ac mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod ganddyn nhw lygedyn o obaith o gyrraedd rownd yr wyth olaf o hyd, a hwythau’n bumed yn y tabl gyda’r pedwar uchaf yn mynd drwodd.

Ymateb y capten

“Ar ôl y pedair pelen gyntaf, roeddwn i ar ddim oddi ar bedair, ac roeddwn i’n meddwl fod hon am fod yn noson hir arall,” meddai David Lloyd.

“Wrth lwc, newidiodd pethau, ac roeddwn i’n meddwl fod y ffordd ddaru Sam a fi fatio’n anhygoel ac roedd hi’n braf ei gwneud hi drosof fi fy hun a’r tîm.

“Mae hi’n arbennig, mae hi’n braf cael bod yn y llyfrau hanes, ac mae Sam wrth fatio’n chwaraewr profiadol iawn ac mae o wedi dod â chryn dipyn i’r ystafell newid ers iddo fo ddod.

“Roedd hi’n braf cael Sam y pen arall a gwylio’r ffordd mae o’n mynd o gwmpas ei bethau, ac yn bwysicaf oll ddaru ni ennill i’r tîm, sy’n wych.”