Dai Flanagan yw prif hyfforddwr newydd rhanbarth rygbi’r Dreigiau.

Mae’n ymuno â rhanbarth Gwent cyn dechrau tymor 2022-23 ar ôl gadael ei rôl yn hyfforddwr olwyr y Scarlets ar ôl tair blynedd.

Mae’n hyfforddwr ifanc disglair, yn 36 oed, ac yn edrych ymlaen at symud i Rodney Parade.

“Dw i wedi cyffroi o gael ymuno â’r Dreigiau a chael rhoi fy stamp ar y tîm a sut rydyn ni’n chwarae,” meddai.

“Dw i’n awyddus i adeiladu ar y seiliau sydd wedi’u gosod ac i wella a datblygu ein perfformiadau.

“Dechreuais i fy ngyrfa’n ôl yn Ysgol Uwchradd Casnewydd, gan weithio gyda phobol fel Leon Brown a Joe Davies yn Academi’r Dreigiau, felly mae’n beth gwych cael dod adref i weithio gyda’r bois hynny eto a’u helpu nhw i wella.”

“Taith rygbi anhygoel” gyda’r Scarlets

Wrth adael y Scarlets, dywed Dai Flanagan iddo gael “taith rygbi anhygoel” gyda’r rhanbarth dros gyfnod o wyth mlynedd, gan gynnwys bod yn brif hyfforddwr am gyfnod.

Mae e hefyd wedi diolch i’r Scarlets, gan gynnwys chwaraewyr fel Rhys Priestland, Regan King, Scott Williams a Steff Hughes “sydd mor wybodus am y gêm”.

Ond ar ddechrau pennod newydd yn ei yrfa, mae David Buttress, cadeirydd y Dreigiau, wedi ei groesawu i’r rhanbarth.

“Rydym wrth ein boddau fod Dai yn ymuno â ni cyn dechrau’r tymor nesaf a bod dyn balch o Went, un o’r talentau hyfforddi mwyaf arloesol yng Nghymru, am gael gweithio gyda’r garfan a thîm hyfforddi talentog rydyn ni wedi’i gynnull,” meddai.

Mae’r Scarlets hefyd wedi diolch i Dai Flanagan.

“Fe fu Dai yn aelod gwerthfawr o’n llwybrau hyfforddi ac yna’r tîm cyntaf ers iddo ymuno â’r Scarlets wyth mlynedd yn ôl,” meddai Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol y rhanbarth.

“Ers i ni fod yn ymwybodol fod Dai yn cael ei ystyried ar gyfer rôl prif hyfforddwr y Dreigiau a’i fod e’n awyddus i gymryd y cyfle hwn, mae’r Scarlets a’r Dreigiau wedi gallu cydweithio i alluogi hyfforddwr Cymreig ifanc a thalentog i gymryd y swydd hon.

“Hoffem ddiolch i Dai am ei ymroddiad i’r Scarlets, ac rydym yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y bennod nesaf yn ei yrfa.”