Mae Ryan Giggs wedi ymddiswyddo o’i rôl yn rheolwr ar dîm pêl-droed Cymru.

Daw’r penderfyniad ar ôl i’w achos llys gael ei ohirio, ac yntau wedi’i gyhuddo o ymosod ar ei gyn-gariad, ac yn dilyn trafodaethau â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Bydd Cymru’n chwarae yng Nghwpan y Byd eleni am y tro cyntaf ers 1958, ar ôl cymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth yn Qatar o dan reolaeth Rob Page, a gamodd i’r swydd pan gamodd Giggs o’r neilltu dros dro yn sgil yr honiadau.

Mae Giggs yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, a bydd yn mynd gerbron llys ym mis Awst, fisoedd yn unig cyn ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd.

“Ar ôl cryn ystyried, dw i’n camu o’m rôl yn rheolwr tîm cenedlaethol dynion Cymru ar unwaith,” meddai mewn datganiad, sydd wedi cael ei gydnabod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Cafodd cytundeb Rob Page ei ymestyn ar ôl i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd, ac fe fydd e wrth y llyw ar gyfer y twrnament ddiwedd y flwyddyn.

Bydd Cymru yng Ngrŵp B gyda Lloegr, yr Unol Daleithiau ac Iran, gyda’u gêm gyntaf yn erbyn yr Americanwyr ar Dachwedd 21.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynegi eu “diolchgarwch” i Ryan Giggs, ac yn dweud eu bod nhw’n “gwerthfawrogi” ei benderfyniad “er lles pêl-droed Cymru”.