Bydd S4C yn parhau i ddarlledu pêl-droed domestig Cymru am y pedair blynedd nesaf.

Ar ôl dod i gytundeb â Chymdeithas Pêl-droed Cymru, bydd gemau domestig y dynion a’r merched, a gemau cartref y tîm rhyngwladol dan 21 i’w gweld yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C tan 2026.

Mi fydd 35 gêm yn cael eu dangos gan Sgorio o gystadlaethau’r dynion, gan gynnwys Cymru Premier JD, Cwpan Cymru JD a Chwpan Nathaniel MG.

Yn ogystal, mi fydd sawl gêm o gynghreiriau Genero Adran yn cael eu dangos bob tymor, gyda rhaglen uchafbwyntiau Sgorio yn dangos y gorau o’r holl gynghreiriau bob wythnos.

Fe wnaeth S4C sicrhau’r hawliau i ddangos gemau tîm cenedlaethol y dynion am y ddwy flynedd nesaf yn ddiweddar, a bydd yr un peth yn wir am gemau’r tîm dan 21 am y pedair blynedd nesaf.

‘Newyddion gwych’

Wrth ymateb, dywed Owain Tudur Jones, dadansoddwr Sgorio a chyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, ei fod yn “newyddion gwych i bêl-droed yng Nghymru”.

“Mae’r gamp yn fwy poblogaidd nag erioed ac mae Cynghreiriau Cymru Leagues JD ac Adran Leagues Genero yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu ein chwaraewyr,” meddai.

“Dyma yw brig y gêm yma yng Nghymru ac mae’r safon yn codi, tymor ar ôl tymor.

“Rydyn ni wedi gweld chwaraewyr rhyngwladol fel Ben Cabango, Dave Edwards a Jazz Richards yn chwarae yn y Cymru Premier JD dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny’n dangos ym mha gyfeiriad mae’r gynghrair yn mynd.

“Mae digon o gemau cyffrous, goliau anhygoel a gelyniaethau mawr, ac mae cyfle i chwarae yn Ewrop ar ddiwedd pob tymor, felly cymaint i unrhyw gefnogwr pêl-droed ei fwynhau.”

‘Perthynas ddiwylliannol bwysig’

Dywed Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ei fod yn “amser da i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru”.

“Gobeithio y bydd y ffaith bod Tîm Cenedlaethol y Dynion wedi cyrraedd Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd yn cynyddu’r cyffro sydd ynghlwm â’r gêm yn ddomestig hefyd ar gyfer y tymhorau sydd i ddod.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac S4C yn rhannu perthynas ddiwylliannol bwysig ac adeiladol sy’n fwy na phêl-droed yn unig. Mae’r berthynas hon yn rhan bwysig o wead cymdeithasol Cymru sy’n bwysig i gymaint o bobol ein gwlad.

“Rydym yn edrych ymlaen at brofi mwy o ddarllediadau safonol S4C o’n gemau domestig a’r gornestau rhyngwladol dan 21 dros y pedair blynedd nesaf.”

‘Cartref pêl-droed Cymru’

Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafodd cynnwys fideo cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Sgorio eu gwylio dros 12.4m o weithiau, a phythefnos yn ôl, fe wnaeth mwy o bobol nag erioed wylio gêm bêl-droed yn Gymraeg wrth i Gymru ennill eu lle yng Nghwpan y Byd.

“Mae’r cytundeb yma i fod yn ddarlledwyr ecsgliwsif o bêl-droed domestig yn tanlinellu ein statws fel cartref pêl-droed Cymru, ac rydym yn falch iawn o hynny,” meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C.

“Mae Sgorio yn frand mae cefnogwyr pêl-droed Cymru yn adnabod ac yn ymddiried ynddo. Y tymor diwethaf, cafodd 48 gêm ddomestig byw eu dangos ar draws blatfformau Sgorio, gyda dros 12m o sesiynau gwylio i gynnwys ar-lein Sgorio, ac mae hynny yn dangos pwysigrwydd y gwasanaeth i gefnogwyr presennol y gynghrair, ac i ddenu cefnogwyr y dyfodol.

“Rydyn ni’n falch iawn o barhau gyda’n hymrwymiad i bêl-droed domestig ac i gefnogi cynnydd a thwf y gêm yma yng Nghymru.”