Mae Pwyllgor Olympaidd Sbaen a Llywodraeth Sbaen wedi cefnu ar y syniad o wneud cais i gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf yng Nghatalwnia ac Aragon yn 2030.

Daw hyn yn sgil diffyg cydsyniad rhyngddyn nhw ynghylch pwy fyddai’n cynnal pa gystadlaethau.

Mae Alejandro Blanco, cadeirydd y pwyllgor, wedi galw cynhadledd i’r wasg fory (dydd Mawrth, Mehefin 21) i egluro’r penderfyniad.

Yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn ffrae ag Aragon, roedd Llywodraeth Catalwnia wedi gofyn am ganiatâd i wneud cais ar eu pennau eu hunain, ac fe gafodd trafodaethau anffurfiol eu cynnal ynghylch 2030 a 2034.

Ond mae’n debyg na fydd y cais presennol yn mynd rhagddo ar gyfer y naill flwyddyn na’r llall, er y gallai cais o’r newydd gael ei gyflwyno ar gyfer 2034, naill ai ar gyfer Catalwnia yn unig neu yng Nghatalwnia ac Aragon pe bai modd dod i gytundeb.

Roedd disgwyl refferendwm ar Orffennaf 24 yn y chwe sir yng Nghatalwnia oedd yn rhan o’r cais, ond cafodd y cais ei ohirio ar Fai 27 yn sgil diffyg cydsyniad.

Pwy sydd ar fai?

Ar Fawrth 28, cafodd cytundeb rhwng Catalwnia ac Aragon ynghylch lleoliadau ei gyhoeddi.

Fe wnaeth Catalwnia ddatgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus i’r cytundeb, ond mae’n ymddangos bod Aragon wedi gwneud tro pedol gan wrthod cymeradwyo’r cynlluniau.

Y diwrnod canlynol, cyhoeddodd Aragon eu bod nhw am gyflwyno cynlluniau newydd sbon a fyddai’n “decach a mwy cytbwys”.

Ar Fai 25, roedd Aragon dan y lach am dorri’r cytundeb gyda Chatalwnia.

Fe ddaeth i’r amlwg wedyn fod pennaeth Pwyllgor Olympaidd Sbaen wedi gwrthod cytundeb ar leoliadau pob cystadleuaeth, er bod y pwyllgor wedi’i gymeradwyo eisoes.

Yn ôl y cytundeb gwreiddiol, byddai 54 o gystadlaethau wedi’u cynnal yn Aragon a 42 yng Nghatalwnia.