Mae adroddiadau bod Yan Dhanda, cyn-chwaraewr canol cae Abertawe, am ymuno â Ross County, y clwb yn yr Alban lle mae Malky Mackay, cyn-reolwr Caerdydd, yn rheolwr.

Mae disgwyl i’r Sais, sydd o dras Indiaidd, lanio yn Inverness i gwblhau’r trafodaethau heddiw (dydd Llun, Mehefin 20).

Mae lle i gredu bod y chwaraewr 23 oed wedi gwrthod sawl cynnig i aros yn y Bencampwriaeth ac i fynd dramor ar ôl cael ei ryddhau gan Abertawe ar ddiwedd ei gytundeb y tymor diwethaf.

Ac yntau’n hanu o Birmingham, dechreuodd ei yrfa gyda West Brom cyn symud i Lerpwl a threulio pum mlynedd yn Anfield cyn dod i Gymru.

Sgoriodd ei gôl gyntaf i’r Elyrch gyda’i gyffyrddiad cyntaf, eiliadau’n unig ar ôl dod i’r cae yn eilydd.

Ond dim ond pedair gôl arall sgoriodd e i’r clwb mewn cyfanswm o 50 o gemau cyn colli’i ffordd.

Roedd e yn y penawdau’n gyson yn ystod ei gyfnod gydag Abertawe, yn bennaf am yr hiliaeth wynebodd e fel chwaraewr o dras Asiaidd, ac wedyn fel rhan o ymgyrch y clwb i herio’r fath agweddau ar y cae ac oddi arno.

Yan Dhanda

Pêl-droediwr Asiaidd Abertawe’n galw am waharddiad oes am negeseuon hiliol ar y we

Alun Rhys Chivers

“Dydy’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddim wedi fy argyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yn well y tro nesaf” medd Yan Dhanda wrth golwg360