Mae Geraint Thomas wedi torri tir newydd drwy fod y Cymro a’r seiclwr cyntaf o wledydd Prydain i ennill y Tour de Suisse.

Daeth e’n ail yn y cymal olaf yn erbyn y cloc i gipio’r teitl yn Vaduz, ac roedd e ymhell ar y blaen i’w wrthwynebwyr wrth i Remco Evenepoel ennill yr wythfed cymal mewn 28 munud a 26 eiliad, tair eiliad ar y blaen i’r Cymro.

Roedd Thomas fwy na munud ar y blaen i Sergio Higuita, gyda Jakob Fuglsang yn gorffen yn drydydd.

Roedd ei gyd-Gymro Stephen Williams yn un o nifer o seiclwr oedd wedi gorfod tynnu’n ôl o’r Tour de Suisse oherwydd Covid-19.

Bydd y fuddugoliaeth yn hwb i Geraint Thomas ar drothwy’r Tour de France, sy’n dechrau ar Orffennaf 1.