Cipiodd Michael Neser dair wiced cyn i Colin Ingram daro 57 i helpu tîm criced Morgannwg i guro Sussex o bedair wiced mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd.

Roedd Morgannwg yn ysu am fuddugoliaeth ar ôl i’w gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste gael ei chanslo heb i’r un belen gael ei bowlio o ganlyniad i’r tywydd ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 18).

Sgoriodd yr ymwelwyr 149 am wyth, gyda Luke Wright yn taro 46 oddi ar 35 o belenni, gyda Tom Alsop yn cyfrannu 34 a Delray Rawlins 27.

Cafodd Ingram ei gefnogi gan Sam Northeast (35 oddi ar 32 o belenni), wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o 86 am yr ail wiced mewn 10.4 pelawd, ac fe gyrhaeddodd Morgannwg y nod gyda phelawd yn weddill er i Tymal Mills gipio tair wiced am 30.

Mae’r canlyniad yn gadael Morgannwg yn chweched yn y tabl yng Ngrŵp y De, ar drothwy ymweliad Middlesex â Chaerdydd nos Fawrth (Mehefin 21) a Gwlad yr Haf nos Wener nesaf (Mehefin 24).

“Yn y lle cyntaf, mae’n wych cael y fuddugoliaeth,” meddai Colin Ingram.

“Dw i bob amser yn teimlo y gall 150 fod yn gyfanswm anodd.

“Mae’n rhaid i chi roi eich troed i lawr rywbryd, mae’n agos ac rydych chi jyst eisiau cyrraedd yno.

“Ro’n i’n meddwl ei fod e’n berfformiad da gan y tîm cyfan, ac yn falch o gael y canlyniad.

“Dw i wedi treulio tipyn o amser yn y canol yn ddiweddar ac fe wnes i elwa ar hynny’n bendant.”