Cipiodd Joe Leach chwe wiced am 44 – ei ffigurau dosbarth cyntaf gorau erioed – wrth i dîm criced Swydd Gaerwrangon roi mwy o bwysau ar Forgannwg ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn New Road yng Nghaerwrangon.

Erbyn diwedd y dydd, roedd ganddyn nhw fantais o 279 yn eu hail fatiad, gyda phedair wiced yn weddill, wrth iddyn nhw geisio mynd â’r ornest tu hwnt i afael y sir Gymreig.

Cipiodd Michael Neser dair wiced i Forgannwg i sicrhau nad oedd y flaenoriaeth mor fawr ag y gallai fod wedi bod.

Byddan nhw’n dechrau’r trydydd diwrnod ar 147 am chwech.

Diwedd batiad Morgannwg

Roedd Morgannwg yn 32 am dair ar ddechrau’r dydd.

Ar ôl glaw yn ystod y bore, dechreuodd yr ail ddiwrnod am 11.30 a doedd hi ddim yn hir cyn i Forgannwg golli’u pedwaredd a’u pumed wicedi, wrth i Sam Northeast gael ei fowlio gan Joe Leach am naw a Sam Northeast wedi’i ddal gan Josh Baker yn y slip oddi ar y belen ganlynol i adael Morgannwg yn 38 am bump.

Aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth i Forgannwg wrth iddyn nhw golli eu chweched wiced ar 61, pan gafodd Billy Root ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Charlie Morris am wyth.

Ond yn yr un modd â batiad Swydd Gaerwrangon, roedd angen partneriaeth i sefydlogi’r cyfan, ac fe ddaeth gyda Tom Cullen ac Eddie Byrom a lwyddodd i reoli’r bowlwyrnam gyfnod cyn cinio a gafodd ei gymryd hanner awr yn hwyrach nag arfer o ganlyniad i’r glaw yn y bore.

Ond cafodd Cullen ei ddal yn y slip gan Ed Pollock oddi ar fowlio Leach, a gipiodd ei chweched wiced gyda’r sgôr yn 104 am saith, ac roedd Morgannwg yn 109 am wyth pan gafodd Michael Neser ei fowlio gan Ed Barnard am bedwar ar drothwy cinio, ac roedden nhw’n 114 am wyth erbyn yr egwyl, gydag Eddie Byrom bedwar rhediad yn brin o’i hanner canred.

Ychwanegodd Byrom a Salter 30 am y nawfed wiced, cyn i Salter gael ei ddal yn y slip gan Tom Fell oddi ar fowlio Barnard, a daeth y batiad i ben ar 139 pan yrrodd Byrom at Leach oddi ar fowlio Dillon Pennington am 57.

Ail fatiad Swydd Gaerwrangon

Dechreuodd Swydd Gaerwrangon eu hail fatiad gyda blaenoriaeth o 132, ac roedden nhw wedi cyrraedd 51 pan gollon nhw Ed Pollock, a gafodd ei ddal yn gampus gan David Lloyd yn y slip oddi ar fowlio Michael Hogan am bump.

Roedd y Saeson yn edrych fel pe baen nhw’n debygol o adeiladu cryn flaenoriaeth wrth i Azhar Ali a Jake Libby, gynt o Brifysgol Caerdydd, edrych yn gadarn am yr ail wiced, gan gyrraedd 51 am un erbyn amser te.

Dechreuodd y Saeson y sesiwn olaf yn ddigon pwyllog, gyda digon o amser ar ôl yn yr ornest i adeiladu blaenoriaeth swmpus, ac roedd Azhar Ali wedi sgorio 42 mewn partneriaeth o 87 gyda Libby am yr ail wiced erbyn iddo fe gael ei ddal gan Tom Cullen wrth i Michael Hogan wyro pelen isel i mewn at y batiwr.

Sgoriodd Libby 49 cyn i Michael Hogan daro’i goes o flaen y wiced, gyda’r sgôr yn 115 am dair, ac erbyn hynny roedd gan Swydd Gaerwrangon flaenoriaeth o 247, ac roedden nhw’n 118 am bedair pan gafodd Tom Fell ei ddal gan Cullen oddi ar fowlio Neser am 17 ac yn 133 am bump wrth i Brett D’Oliveira gael ei ddal yn isel yn y slip gan Sam Northeast oddi ar yr un bowliwr am saith.

Collon nhw eu chweched wiced ar 134, wrth i Ed Barnard gael ei fowlio gan Neser am un, gyda’r bowliwr yn cipio’i drydedd wiced yn y batiad a’i chweched yn yr ornest.

Mae Morgannwg yn dal i frwydro i achub yr ornest, ond gallai wicedi cynnar ar y trydydd diwrnod fod yn allweddol cyn i’r nod fynd yn ormod.

Sgorfwrdd

Morgannwg dan bwysau wrth i Swydd Gaerwrangon daro’n ôl yn New Road

32 am dair yn eu batiad cyntaf wrth ymateb i 271 y tîm cartref yng Nghaerwrangon

Morgannwg yn troi eu sylw yn ôl i’r Bencampwriaeth

Maen nhw’n herio Swydd Gaerwrangon yn y gêm pedwar Diwrnod sy’n dechrau heddiw (dydd Sul, Mehefin 26)