Ar yr wyneb roedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddechrau’r wythnos ynghylch taclo Tai Haf yn galonogol iawn.

Rhag ofn na fuoch chi yn talu sylw, dyma grynhoi’r sefyllfa: mae’r farchnad dai wedi mynd yn boncyrs ers y pandemig, gyda Gweithio Gartref/Brexit/Covid/Pobol Methu Mynd Ar Wyliau wedi golygu bod tai yn ardaloedd mwyaf poblogaidd Cymru wedi bod yn cael eu prynu fel na fu ffasiwn beth.

Mae’r tai yma yn cael eu troi yn dai haf neu lety gwyliau/AirBnb heb unrhyw rwystr na rheolaeth.

Aeth y sefyllfa gynddrwg nes bod hyd yn oed gweithwyr allweddol sydd ar gyflogau gwell na’r rhelyw – nyrsus a dynion tân ag ati – yn methu fforddio prynu tai na byw mewn tai rhent mewn pentrefi prydferth yr holl ffordd o Fôn lawr i Benfro.

Ac mewn cyfweliad ar dudalen pedwar y cylchgrawn hwn, mae’r Cynghorydd Trystan Lewis yn ein hatgoffa bod tai haf yn bla yng nghefn gwlad Conwy hefyd, yn nyffrynnoedd hyfryd Conwy a Chlwyd.

Hynny yw, nid problem i ardaloedd arfordirol a threfi glan môr yn unig ydy hon.

Ond mae hi YN broblem i Lywodraeth Cymru, a diolch i bwyso glew a dygn gan ymgyrchwyr Hawl i Fyw Adra mae’r gwleidyddion wedi gorfod gwrando.

Mae’r Llywodraeth am roi’r hawl i gynghorau sir orfodi perchnogion tai i ofyn am ganiatâd cyn troi cartref parhaol yn dŷ haf.

Hefyd, bydd modd i gynghorau sir reoli nifer yr ail gartrefi mewn cymunedau lle maen nhw yn bla.

Yn syml, os oes gormod o dai haf a llety gwyliau, a dim gobaith i bobol leol fyw ym mro eu magwraeth, bydd cyfle i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Ond – ac mae hwn yn ond mawr – fe fydd angen rhoi’r polisïau newydd hyn ar waith.

Fel y mae Jason Morgan yn ddweud yn ei golofn feiddgar ar dudalen 21, yn rhy aml o lawer mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi polisi secsi-hyfryd-gwych sydd heb ei roi ar waith.

Fe fydd y cynghorau sir angen cefnogaeth i reoli tai haf a phlismona’r sefyllfa.

Pan ddaw perchnogion cefnog i herio safbwynt y cynghorau sir, mi fydd angen i Lywodraeth Cymru gynnig cefnogaeth wleidyddol, ariannol a moesol.

Mi fydd angen y gefnogaeth i ddadlau bod yna ormod o dai haf ac AirBnBs mewn ardaloedd penodol, a bod angen eu ffrwyno nhw, arafu eu twf, a sicrhau tai i bobol leol.

Bydd angen i Mark Drakeford gyhoeddi ei gefnogaeth yn floesg a diamod i unrhyw gyngor sir sy’n fodlon taclo’r tai haf.

Ond am y tro, mae’r bêl yng nghwrt y cynghorau sir.

Tenis

A sôn am beli a chyrtiau, pa mor hyfryd yw cael mwynhau’r tenis yn Wimbledon?

Roedd yr unig gêm gafodd Serena Williams eleni yn gorcar, a’r din-dong dramatig rhwng Kyrgios o Oz a’r Groegiwr Tsitsipas yn ddigon o sioe.

Ond gyda Geraint Thomas yn gystadleuol unwaith eto yn y Tour de France, a chwaraewyr rygbi Cymru yn arwrol allan yn Ne Affrica yn erbyn cewri’r Bociaid, mae rhywun yn gofyn pam nad yw Cymru wedi cynhyrchu unrhyw chwaraewr tenis o safon ryngwladol.

O gofio bod ei fam Helen wedi ei geni yng Nghaerdydd, oes ganddo ni le i hawlio Cameron Norrie fel hanner Cymro?

Yn fab i Sgotun, fe gafodd Cameron ei eni yn Ne Affrica a threulio’i blentyndod yn Seland Newydd, cyn symud i Loegr i fireinio’i denis a dod yn seren yn y gamp yn ystod Wimbledon eleni.

Felly rhwng ei fam a’i dad, teg dweud bod Cameron yn Gelt!