Does yna ddim un ffigwr ym mhêl-droed Cymru sydd wedi gwahanu barn y cefnogwyr yn fwy na John Toshack. Yn ddiweddar, mae Toshack wedi ei bortreadu gan rhai fel proffwyd sy’n gweld yn bell, fel rheolwr ysbrydoledig wnaeth ddechrau’r daith i Gwpan y Byd. Tosh, meddan nhw, ydy’r dyn wnaeth newid popeth i Gymru trwy ddewis y chwaraewyr ifainc oedd yn mynd i’n helpu ni i gyrraedd Euro 2016.