Wel, mi ydw i wedi ei ddal. Neu, yn fwy addas, mae Covid wedi fy nal i – ac wedi dwy flynedd a mwy o redeg oddi wrtho, daeth y symptomau gyda rhyw synnwyr o ofn a rhyddhad. Mi allwn i stopio edrych dros fy ysgwydd – roedd wedi sincio’i ddannedd ynof i, o’r diwedd. Dyma geisio lleddfu rhywfaint ar wythnos annymunol, wrth swatio gyda’r cathod bach, ac ymgolli mewn rwtîn llesg o sgrolio-napio-sgrolio. Doedd dim modd dianc yn llwyr o’r byd tu allan, wrth gwrs – beth fyddai wythnos yn 2022 heb slepja