Pe bai yna refferendwm heddiw ar gynyddu maint y Senedd, mae yna beryg y byddai’r ‘cynyddwyr’ yn colli. Nid am eu bod yn anghywir ond am nad oes digon o egluro wedi bod.

Gan fod pobol yn aml yn dal i gawlio rhwng y Senedd a’r Llywodraeth, mae llawer yn credu mai’r llywodraethwyr sydd wrthi fan hyn yn trio cael rhagor o rym.