Mae dyn a fu’n rhan o arddangosfa gelf i gofio cenhedlaeth y Windrush yn y Blac Boi yng Nghaernarfon yn credu y dylid cadw enw dadleuol y dafarn.

Nos Wener ddiwethaf, roedd Arddangosfa Solidariaeth Windrush wedi cael ei chynnal yn y Blac Boi –  yn ystod wythnos cofio’r 500 o bobol a gyrhaeddodd o’r Caribî i Brydain ar fwrdd llong y Windrush yn 1948, i helpu ailadeiladu gwledydd Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd.