Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gynddeiriog gyda’r penderfyniad “amlwg o wleidyddol” i urddo Prif Weinidog Cymru’n aelod o’r Orsedd.

Bydd Mark Drakeford yn cael ei urddo ar ran holl weithwyr allweddol Cymru mewn seremoni arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ar 5 Awst, digwyddiad sydd wedi derbyn £600,000 o arian trethdalwyr gan Lywodraeth Cymru, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.