Pan fydd rhywun adnabyddus yn marw mae yna ryw ysfa naturiol a hollol ddealladwy ymhlith ein cyfryngau i dalu teyrnged iddynt cyn gynted â phosib. Dim byd o gwbl yn bod ar hynny wrth gwrs, mae’n dod o le da a’r bwriad yn un diffuant. Ond weithiau, os am wneud joban iawn ohoni a rhoi teilyngdod i’r un sydd wedi ein gadael, mae angen pwyllo ac aros ychydig.