Daeth y newyddion wythnos ddiwethaf am ddedfrydau’r tri pherson a lofruddiodd y plentyn bach pum mlwydd oed, Logan Mwangi, ym Mhen-y-bont ar Ogwr y llynedd.

Ac mae yna gynifer o bethau nad ydw i’n eu deall.

Yn anad dim, dydw i ddim yn deall sut gall pobl fod mor affwysol o greulon.