Yn ei cholofn newydd yng nghylchgrawn Golwg, mae Izzy Morgana Rabey yn cyflwyno ei hun ac yn sôn am ei phroject theatrig diweddara’. Ac er mwyn i bawb gael blas ar y cynnwys, mae’r wal dalu – pay wall – wedi ei chodi ac mae hon ar gael i’w darllen am ddim…

Heiaaa, Izzy ydw i. Fy ail enw yw Rabey, fel y clefyd. Mae pobl wastad yn trio bod yn gwrtais a’i ddweud e fel ‘Rab-eu’ neu ‘Rabi’, ac rwy’n gorfod ymateb gyda: “Na na…fel y clefyd, ond heb yr ’s’.”

Fy enw canol yw Morgana, achos mae Dad gyda thing am wrachod a mytholeg. Ystyr yr enw yw ‘gwrach y môr’ neu ‘cylchdro’r môr’ ac os ydych chi erioed wedi gweld fy ngwallt mae’n gwneud rhyw fath o sens!

Wrth fy ngwaith rwy’n Gyfarwyddwr Theatr a Ffilm, Cerddor, Hwylusydd ac Achoswr Trafferth… ac mae pobl yn hoffi fy nisgrifio fel rhywun ‘radical’.

Sa i’n gweld fy hun mor radical â hynny i fod yn onest. Rwy’n berson dosbarth canol, wedi fy magu yn y wlad (Machynlleth), y rhan fwyaf o fy nheulu yn bobol gwyn (roedd fy nhaid o dras Twrcaidd, Irani ac Iraci) a cis (cisgender). Er fy mod i yn hoyw, mae gyda fi’r fraint o fod yn rhywun all ‘basio’ am rywun heterorywiol. Ar y foment rwy’n byw yn Llundain, ond dal i wneud lot o waith yng Nghymru.

Rwy’n eitha’ obsessed gyda sut allwn ni greu anhrefn a chwestiynu syniadau ynghylch beth yw hunaniaeth Gymraeg a hunaniaeth yn gyffredinol.

Mae’n rhywbeth rwy’ wastad yn ymchwilio iddo yn fy ngwaith fel cyfarwyddwr ond hefyd yn y gerddoriaeth rwy’n sgwennu yn fy nau broject cerddorol: The Mermerings; a’r hip-hop neo soul Cymraeg rwy’n creu gyda’r gantores a chynhyrchydd eiconig Cymraeg EADYTH.

Wnes i ddechre The Mermerings gydag un o fy ffrindiau gorau, Molly McBreen, pan wnes i symud i Gaerdydd yn 2016.

Rydan ni’n creu cerddoriaeth pync a thraddodiadol gyda lot o harmoneiddio.

Mae’r ddau broject cerddorol sydd gen i mor wahanol, ond eto rwy’n teimlo eu bod nhw yn dathlu bob genre cerddorol sy’n fy ysbrydoli.

Rwy’n caru cerddorion a bandiau pync fel Bikini Kill, Le Tigre,  Courtney Love a The Slits cymaint â cherddorion hip-hop a neo soul fel Erykah Badu, Neneh Cherry, Lauryn Hill a Nai Palm o Hiatus Kaiyote.

Fel arfer rwy’n sgwennu’r geiriau gyntaf ar gyfer cân neu gerdd ac wedyn meddwl am y fath o felodi fydd yn ffitio’r geiriau.

Mae’r rhan fwyaf o’r stwff rwy’n sgwennu yn cael ei sbarduno gan rywbeth rwy’n grac ambwyti. Wnes i sgwennu’r gân ‘Cymru Ni’ o ganlyniad i’r rhwystredigaeth roeddwn i’n teimlo yn y sîn gelfyddydol Gymraeg – fod yna GYMAINT o stwff gwych yn digwydd yng Nghymru ond eto tydan ni byth wir yn dathlu hyn, nag yn rhoi platfform yn y Wasg Gymraeg i’r unigolion sy’n gwneud newidiadau anferth yn eu cymunedau.

Rwy’n sôn am bobl fel Mary Anne Roberts o’r band Bragod, sy’n perfformio hen gerddi Cymraeg trwy ddawns, llais a chelf gyda’r crwth (hen offeryn Cymraeg).

Nid yw’r math yma o gadwraeth ddiwylliannol yn cael digon o sylw a dathliad yn y Wasg Gymraeg.

Pypedau

Ar hyn o bryd rwy’n rhan o broject o’r enw Living Archive yn theatr The Royal Court yn Llundain, sy’n gyfres o ddarlleniadau gan ddramodwyr ar sut allen ni ddad-goloneiddio archifau theatr. Mae’r darnau rwy’n cyfarwyddo yn cynnwys sgyrsiau ar gynrychiolaeth bobl o gefndiroedd byd-eang ar lwyfan, ac yn trafod pa mor gul all hynny fod a pha mor anodd yw e i dorri allan o’r fframwaith o hunaniaeth berfformio sbesiffig – specific performing identity – ar lwyfan Saesneg. Mae yna hefyd ddarn o’r sgript sy’n defnyddio pypedau, ac felly mae gen i ffrind Emily sy’n gweithio ar y ‘Puppet Barge’ yn Llundain i roi fi a’r actorion ar ben ffordd o ran sut i wneud iddo edrych fel bo ni’n gwybod be’r ydan ni’n wneud. Lwc owt War Horse!