Yr haf ydi’r gorau, wrth gwrs. Doedd Greta erioed wedi deall y rhai oedd yn mynnu fel arall, yn traethu am aeafau clyd a lliwiau llachar yr hydref. Trio bod yn wahanol oedden nhw, trio bod yn ddifyr, achos roedd hi’n amlwg fod dim yn y byd gystal â dyddiau hirion diwedd tymor, gwres yr haul ar gnawd noeth, brychni haul a diodydd oer a phawb yn edrych ar eu gorau un, ar eu siriolaf un.