Ry’ch chi’n ymuno â fi wrth i fi roi cynnig ar un o gampau anoddaf Cymru. Na, nid mŵnwolcio lan Cader Idris yn cario bag llawn plwm – anoddach: teithio o Aberystwyth i Gaerdydd ar drên.

Ar ôl dechrau ychydig yn hwyr, fe aeth y siwrne’n syndod o llyfn am ddwy funud hynod lwyddiannus cyn cyhoeddiad i gyfeiliant ochneidio cyfarwydd yn dweud na fyddai’r trên penodol hwn yn llwyddo i fynd ymhellach na Machynlleth.