Mae tîm criced Morgannwg wedi curo Swydd Gaerlŷr o fatiad a 28 rhediad ar ddiwrnod hanesyddol i’r sir, wrth i Sam Northeast sgorio 410 heb fod allan – y sgôr unigol gorau erioed i’r sir, a’r trydydd i unrhyw sir yn hanes y Bencampwriaeth.
Roedd hi’n edrych yn debygol y byddai’r ornest yn gorffen yn gyfartal ar ddechrau’r diwrnod olaf yn Grace Road, pan oedd Northeast heb fod allan ar 308 – un rhediad y tu ôl i record Steve James a gafodd ei gosod yn erbyn Sussex yn Llandrillo yn Rhos yn 2000.
Aeth e’r tu hwnt i’r sgôr hwnnw’n gynnar ar y bore olaf, gan ymuno â Brian Lara (501 heb fod allan), Archie McLaren (424) a Graeme Hick (405 heb fod allan) fel yr unig chwaraewyr yn y gêm sirol i sgorio dros 400.
Cyn y batiad hwn, 191 oedd sgôr gorau Northeast mewn criced dosbarth cyntaf ond mae e bellach yn nawfed ar y rhestr o brif sgorwyr criced dosbarth cyntaf, ac yn cadw cwmni i rai o fawrion y byd.
Aeth e tu hwnt i 1,000 o rediadau y tymor hwn, ac fe aeth Chris Cooke heibio i 6,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa gyda nawfed canred ei yrfa.
Sgoriodd y Saeson 584 yn eu batiad cyntaf, sef y sgôr uchaf erioed i dîm sydd wedi colli o fatiad a mwy mewn gêm dosbarth cyntaf.
Sgoriodd Morgannwg 795 am bump – y trydydd tro erioed iddyn nhw sgorio 700, a’u sgôr uchaf erioed – wrth i Northeast a Chris Cooke adeiladu’r bartneriaeth fwyaf erioed i’r sir (461), a’r wythfed partneriaeth fwyaf yn hanes y Bencampwriaeth.
Roedd eu 461 yn rhagori ar 425 Adrian Dale a Viv Richards yn erbyn Middlesex yng Nghaerdydd yn 1993.
Sgôr gorau Morgannwg fel tîm cyn hyn oedd 718 am dair, wedi cau’r batiad – ar y diwrnod y cipiodd Steve James ei record yn y gogledd.
Cafodd Cooke a Northeast ill dau eu gollwng sawl gwaith yn ystod y batiad – Cooke ar dri a 15, a Northeast ar 96 – ond hwn yw’r sgôr gorau erioed yn erbyn Swydd Gaerlŷr hefyd, gan guro 355 heb fod allan i Surrey ar yr Oval yn 2015.
191 yw ail sgôr gorau erioed Cooke, ac yntau wedi sgorio canred dwbl unwaith yn ei yrfa – 205 yn erbyn Surrey y tymor diwethaf.
Sgoriodd Northeast 258 o’i rediadau mewn un diwrnod, sydd hefyd yn record i’r sir, yn ogystal â’i 48 ergyd i’r ffin.
Ond cafodd y tîm cartref eu bowlio allan yn eu hail fatiad am 183 mewn 59.4 pelawd, gyda Michael Hogan yn cipio pedair wiced am 43 a Michael Neser dair wiced am 60, wrth i’r troellwr Andrew Salter gipio dwy am 36 a James Harris un am 27.
Bowlio rhagorol
Dim ond 65 o belawdau’n weddill pan ddechreuodd eu hail fatiad wrth iddyn nhw geisio achub yr ornest, ar ôl i Forgannwg gau eu batiad gyda blaenoriaeth o 211.
Ar ôl batio anhygoel, roedd y bowlwyr ar eu gorau hefyd, wrth i Salter waredu Rishi Patel ar ôl i Michael Hogan gipio wicedi Louis Kimber, gyda’r bowliwr cyflym 41 oed hefyd yn gwaredu Colin Ackermann a Joey Evinson yn yr un belawd.
Erbyn i’r Saeson golli eu pumed wiced, roedden nhw’n dal ar ei hôl hi o 83 gyda 27 pelawd yn weddill, ond adeiladodd Wiaan Mulder a Harry Swindells 42 mewn 14 pelawd i roi’r pwysau ar Forgannwg am gyfnod.
Ond roedden nhw’n synhwyro’r fuddugoliaeth go iawn pan gipiodd Michael Neser wicedi Swindells a Ben Mike o fewn tair pelen, gyda Kiran Carlson yn dal Roman Walker o Wrecsam oddi ar fowlio James Harris.
Cipiodd Hogan wiced Mulder gyda phelen wyrodd i ffwrdd o’r batiwr, a daeth yr ornest i ben pan fowliodd Neser Chris Wright gyda iorcer.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn codi i’r ail safle hollbwysig, wrth iddyn nhw anelu am ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth, gyda phedair gêm yn weddill o’r ymgyrch a dau dîm yn gallu codi o’r Ail Adran.