Cafodd angladd John Gwynne, y sylwebydd dartiau a chriced, ei gynnal ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn ei farwolaeth yn 77 oed, ar ôl brwydr hir â chanser. Roedd yn wyneb a llais cyfarwydd ar Sky Sports ym myd dartiau, criced, pêl-droed a speedway. Yma, mae’r sylwebydd criced a’i ffrind Edward Bevan yn rhannu ambell atgof o’r gŵr o Swydd Gaerhirfryn, gan gynnwys ei deithiau rheolaidd i wylio Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn ar gae criced Bae Colwyn…
Fe wnaeth y gŵr hyfryd hwn rannu’r sylwebaeth gyda fi am flynyddoedd lawer yn Swydd Gaerhirfryn – gemau Morgannwg – a phan fyddai rhestr y gemau ar gyfer y tymor i ddod yn cael eu cyhoeddi, byddwn i’n edrych ymlaen yn fawr at daith i Old Trafford neu i Fae Colwyn.
Gêm gartref i Forgannwg oedd yr ail un o’r rhain, wrth gwrs, taith o bedair awr o’r de, ond dim ond rhyw awr o Fanceinion a byddai John wrth ei fodd ymhlith y dorf Gymreig yn dweud wrth bawb fod ganddo fe gyndeidiau o Gymru. Ar ôl i’w annwyl wraig farw, byddai John yn dod â’i dad i’r cae yng ngogledd Cymru ac ar ôl y chwarae ar nos Lun, bydden nhw’n mynd draw i’r capel lleol i wrando ar emynau traddodiadol yn cael eu canu.
Roedd e wrth ei fodd gyda cherddoriaeth, ac fel cefnogwyr brwd o Gilbert a Sullivan, fe berswadiodd e fi yn Aigburth i ymuno â fe am bennill neu dda o ‘The Mikado’. Roedd e wrth ei fodd bob munud yn dilyn Swydd Gaerhirfryn, ac fe dorrodd ei galon – fel pob un ohonom – pan gafodd ei ddisodli’n fyr rybudd. Chafodd e ddim esboniad o’r rhesymau byth ond fe wnaeth nifer, gan gynnwys aelodau, staff a miloedd o wrandawyr a ffrindiau John gwyno am y ffordd gafodd ei drin.
Roedd e hefyd yn arbenigwr y tu ôl i’r meicroffôn mewn cystadlaethau dartiau, gan fwynhau pob eiliad ac yn esbonio popeth yn fanwl i’w wylwyr a’i wrandawyr. Roedd tipyn o alw amdano fe fel arweinydd ciniawau, yn enwedig rhai chwaraeon. Bydda i’n gweld ei eisiau fe fel rhywun roedd yn fraint i fi gael ei ’nabod, ac fel rhywun ro’n i’n ei edmygu’n fawr.