Mae Ben Davies, amddiffynnwr tîm pêl-droed Cymru, wedi llofnodi cytundeb newydd a fydd yn ei gadw gyda Spurs tan 2025.

Ymunodd y Cymro Cymraeg â’r clwb yng ngogledd Llundain yn 2014 ar ôl gadael Abertawe, ac fe wnaeth e serennu y tymor diwethaf wrth i Spurs gyrraedd Cynghrair y Pencampwyr ar ôl gorffen yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Chwaraeodd e 43 o weithiau i’r clwb y tymor diwethaf, ei wythfed gyda’r clwb, ac mae e bellach wedi chwarae mewn 271 o gemau a 58 o gemau Ewropeaidd.

Bu’n gapten dair gwaith yn ystod tymor 2021-22, gan ragori yng nghanol y tri yn y cefn, ac mae e wedi dechrau 34 allan o 36 o gemau o dan y rheolwr Antonio Conte, gan gynnwys 26 allan o 27 o gemau yn yr Uwch Gynghrair.

Ildiodd yr amddiffyn ddim ond wyth gôl wrth i’r tîm ennill deg allan o 14 o’u gemau olaf y tymor diwethaf, gan gynnwys tair llechen lân i orffen y tymor i sicrhau eu lle yn Ewrop.

Sgoriodd e gôl yn erbyn Newcastle fis Ebrill, yn ystod buddugoliaeth o 5-1.

Mae e wedi ennill 74 o gapiau dros Gymru, gan gynnwys serennu yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni, a hynny ochr yn ochr â Joe Rodon, un arall sy’n chwarae i Spurs ac a ddechreuodd ei yrfa yn Abertawe.