Mae Ben Cabango, amddiffynnwr canol tîm pêl-droed Abertawe a Chymru, yn dweud ei fod e’n ysu i fwrw iddi wrth iddo geisio profi ei ffitrwydd cyn gêm gyntaf tymor y Bencampwriaeth yn erbyn Rotherham ddydd Sadwrn (Gorffennaf 26).

Mae e wedi bod yn chwarae i dîm dan 21 y clwb wrth barhau i wella o anaf i’w ffêr a gafodd yn erbyn Bournemouth y tymor diwethaf, sydd wedi ei gadw e allan ers mis Ebrill.

Chwaraeodd e am 60 munud yr wythnos hon wrth i’r Elyrch herio Brentford B yng ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg, ac mae’n debyg ei fod e eisoes wedi gwneud digon i gael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm agoriadol y penwythnos hwn.

“Fy nod oedd ceisio sicrhau fy mod i’n cael munudau yn y gêm hon er mwyn sicrhau fy mod i’n barod ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn,” meddai’r Cymro Cymraeg.

“Hon yw’r gêm gynghrair gyntaf, a dw i eisiau sicrhau fy mod i’n cael fy ystyried i chwarae yn honno.

“Mae’n deimlad da iawn cael bod yn ôl allan ar y cae, mae hi wedi bod yn ffordd hir yn ôl ond mae’n teimlo’n dda i gael bod yn ôl allan yno…

“Dw i wedi bod yn gweithio’n galed i gyrraedd lle ydw i nawr, ond dydy’r gwaith caled ddim yn stopio nawr, rhaid i fi fwrw iddi eto.”