Bydd 201 o athletwyr yn cynrychioli Cymru mewn 15 camp wahanol yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham dros yr wythnosau nesaf, a bydd cyfle i gyfarfod â rhai ohonyn nhw mewn rhaglen arbennig ar S4C heno (nos Fawrth, Gorffennaf 26).

Bydd Birmingham 2022: Cymry’r Gemau am 9.30yh yn cynnig cyfle unigryw i ddod i adnabod pum aelod gwahanol o’r tîm, wrth iddyn nhw baratoi i gynrychioli eu gwlad.

Cawn olwg ar fywydau’r taflwr disgen Aled Siôn Davies; yr athletwraig triathlon Non Stanford; yr efeilliaid sy’n paffio, Garan ac Ioan Croft; a’r bowlwraig lawnt a chapten tîm Cymru, Anwen Butten.

O’r cystadlu i’r teithio a’r oriau o hyfforddi bob wythnos, byddwn ni’n gweld yr ymroddiad sydd ei angen i gyrraedd y lefel uchaf ac yn clywed beth sydd yn eu hysbrydoli i gyrraedd eu nod.

Anwen Butten yn arwain Cymru

Anwen Butten
Anwen Butten

Bydd Anwen Butten o Lanbed yn cynrychioli Cymru mewn bowlio lawnt am y chweched tro eleni, a hi yw’r fenyw gyntaf i gyrraedd y nod arbennig yma.

Yn gweithio’n llawn amser fel nyrs arbenigol i gleifion canser y pen a’r gwddf, mae bowlio yn cynnig dihangfa iddi.

Ac yn y ffilm, cawn weld y foment mae hi’n darganfod ei bod hi wedi cael ei dewis i fod yn gapten ar dîm Cymru yn Birmingham.

“Fi byth wedi meddwl byddwn i’n gapten,” meddai.

“Fi jyst yn troi lan a chwarae bowls a gwneud fy ngorau i Gymru. Doeddwn i byth, byth yn meddwl y byddwn i wedi cael y clod a’r fraint o fod yn gapten.

“Y nod yn bendant yw cael medal aur. Mae siawns gyda fi i gael dwy fedal aur, a dyna fyddai’r pinacl.

“Dwi jyst moyn gwneud y gorau dros Gymru a bod ni fel tîm yn gwneud Cymru yn browd.”

Aled Siôn Davies eisiau gwneud yn iawn am siom

Aled Siôn Davies yn Rio
Aled Siôn Davies

Mae Aled Siôn Davies wedi ennill Pencampwriaeth y Byd saith gwaith, Pencampwriaeth Ewrop wyth gwaith, a’r Gemau Paralympaidd dair gwaith.

Ond mae yna un gystadleuaeth ar ôl i’w hennill i’r taflwr disgen adnabyddus o Ben-y-bont ar Ogwr, sef Gemau’r Gymanwlad.

Roedd e’n gapten ar dîm Cymru yn Glasgow yn 2014, ond mae’r siom o golli’r cyfle i ennill y fedal aur yn ei yrru yn ei flaen nawr.

“Roedd bod yn gapten yn rhywbeth anhygoel, a rhywbeth sydd mor agos at fy nghalon,” meddai.

“Oeddwn i eisiau mynd a dangos i bawb, lead by example, felly roedd yna lot o bwysau arnaf i.

“Roedd pawb yn rhoi’r medal rownd fy ngwddf cyn mynd ar yr awyren yna.

“Ond pan orffennais i yn ail yn Glasgow, fi’n gweld hynny fel colli achos fi oedd rhif un yn y byd.

“Oeddwn i hefo popeth i ennill y gystadleuaeth yna, ond y peth wnaeth adael fi i lawr oedd fy hunan a chredu doedd neb yn gallu curo fi.

“Nawr, fi yn y siâp gorau erioed, fi’n mynd yna i dorri record y byd mewn crys Cymru.”

Ioan a Garan Croft – ond nid yn erbyn ei gilydd

Yn cystadlu am y tro cyntaf eleni yn y sgwâr bocsio fydd yr efeilliaid o Grymych, Ioan a Garan Croft.

Mae’r ddau wedi bod yn paffio er pan oedden nhw’n chwech oed, ac maen nhw bellach yn cystadlu dros Brydain a Chymru ar draws Ewrop.

Ond gyda Ioan yn cystadlu yn y pwysau welter, a Garan yn y pwysau canol ysgafn, fydd y ddau ddim yn paffio yn erbyn ei gilydd – ac am reswm da.

“Rydan ni’n gwneud popeth gyda’n gilydd,” meddai. “Ymarfer, teithio, byw, bwyta.

“Yr unig beth ni heb wneud yw bocsio’n gystadleuol yn erbyn ein gilydd. Mae hynny’n un peth fydd byth yn digwydd achos fydd mam yn siŵr o byth siarad gyda ni eto!

“Mae gyda ni siawns i ddangos i bawb beth ni’n gallu gwneud.

“Bydd clywed yr anthem yn Birmingham yn anhygoel.”

Non Stanford yn cystadlu am y tro olaf

Non Stanford
Non Stanford

Ac yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad am y tro olaf mae’r triathletwraig Non Stanford.

Mewn gyrfa lwyddiannus iawn, mae hi wedi ennill Pencampwriaeth Triathlon y Byd, wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd ac wedi bod yn gapten ar Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur yn Awstralia yn 2018.

Ond mae gan y Gemau eleni arwyddocâd personol mawr iddi.

“Mae triathlon yn absolutely bonkers,” meddai.

“Mae’n bonkers achos mae’n rili hir. Dyw e ddim yn job, mae e’n lifestyle.

“Es i i’r brifysgol yn Birmingham felly dwi’n rili gyffrous i fynd nôl. Dyna ble ddechreuais i triathlon, ’nôl yn 2009, felly mae’n teimlo fel full circle i fynd yn ôl a chynrychioli Cymru yno yng Ngemau’r Gymanwlad.

“Rwy’n gobeithio cael medal yno i gael y stori berffaith.”

  • Bydd cyfweliad gydag Anwen Butten, capten Cymru, yng nghylchgrawn golwg yr wythnos hon.