Os oeddech chi’n digwydd bod yng nghyffiniau castell Aberteifi nos Wener (Gorffennaf 22), mae’n debyg y byddech chi wedi clywed cerddoriaeth Ail Symudiad.
Dyna brofiad Sierra Moulinié, sy’n ddi-Gymraeg, wrth i gerddoriaeth Einir Dafydd yn enwedig greu argraff arnyn nhw fel rhywun oedd heb ddod ar draws cerddoriaeth Gymraeg ryw lawer o’r blaen.
Roedden nhw, wrth gwrs, wedi digwydd mynd heibio adeg y gig ‘Symud Drwy’r Haf’ i nodi 40 mlynedd ers i’r brodyr o Aberteifi sefydlu cwmni recordiau Fflach, ac wedi penderfynu aros i glywed mwy o’r gig oedd yn serennu Jess, Crys, Einir Dafydd a Catsgam.
Wrth siarad â golwg360, maen nhw wedi disgrifio’r profiad o fwynhau noson annisgwyl o gerddoriaeth Gymraeg am y tro cyntaf.
“Y peth cyntaf glywais i am ddathliad 40 mlynedd Fflach oedd sŵn Einir Dafydd yn canu, yn hardd ac yn berffaith glir er gwaetha’r acwstics ofnadwy yn yr ardd gwrw roeddwn i wedi encilio iddi,” medden nhw.
“Roedd yn rhaid i fi wybod beth oedd yn digwydd, felly fel plant Hamlin, fe ddilynais i sŵn y gerddoriaeth a glanio yng nghastell Aberteifi!
“Roedd y pris mynediad, £15, ychydig yn ddrud efallai ond fel wnaeth swyddog diogelwch frolio, roedd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r diwylliant Cymraeg yn yr ardal, felly doedd dim ots gyda fi.”
‘Llwyfan tebyg i Dŷ Opera Sydney’
Y tu fewn i’r castell, roedd y llwyfan yn atgoffa Sierra Moulinié o Dŷ Opera Sydney “oedd yn dod ag arlliw o geinder i’r dathliadau” ond ar y llwyfan roedd eu sylw wedi’i hoelio, medden nhw.
“Roedd ystod eang o fariau a gwerthwyr bwyd wedi ymsefydlu, ochr yn ochr â bwyty’r castell, ond tynnwyd fy sylw oddi ar y rhain gan y degau o bobol oedd yn llenwi caeau’r castell, eu sylw wedi’i hoeli’n ddi-eithriad ar Einir wrth iddi orffen ei set cyn ymadael yn barod ar gyfer yr act nesaf.
“Wrth gwrs, roedd y rhan fwyaf o’r caneuon a chlebar y bandiau rhwng darnau mewn Cymraeg coeth, hardd, ac mae fy ngafael innau ar yr iaith yn rhydlyd ar ei orau, felly aeth llawer o bethau dros fy mhen i, ond doedd harddwch y gerddoriaeth arnaf innau ddim wedi’i golli chwaith, a honno’n dod yn debycach i roc a rôl wrth i’r noson fynd rhagddi o ran egni’r artistiaid rhyfeddol hyn yn eu perfformiadau.
“Ac wrth gwrs, trosglwyddwyd yr egni’n gyflym iawn i’r gynulleidfa, a doedd hi ddim yn hir cyn i’r gofod o flaen y llwyfan lenwi gyda phobol yn dawnsio a chlapio, yn amlwg yn mwynhau’n fawr iawn.
“A dyna sut wnaeth y noson barhau, gyda’r gerddoriaeth yn mynd â ni ymhell y tu hwnt i’r machlud, felly roedd sioe oleuadau’r band olaf yn goleuo’r nefoedd yn rhyfeddol, er efallai ddim mor ryfeddol â’r ffans wnaeth barhau i ddangos eu hangerdd a’u cefnogaeth i Fflach drwy ddawnsio trwy gydol y noson.”