Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, fe fydd Mudiad Meithrin yn dathlu trosi chwech o gyfrolau gan awduron Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i’r Gymraeg, gan gynnwys lansio ‘Mae Mari’n Caru Mangos’ gan Dr Gwenllian Lansdown Davies.

Mae’r fersiwn Gymraeg yn drosiad o ‘Mari Loves Mangoes’ gan Marva Carty, a bydd y ddwy yn y lansiad ar Faes y Brifwyl, wrth i’r Mudiad Meithrin ddweud mai eu “gobaith yw ein bod yn uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddiwylliannol a llawn bywyd”.

Cafodd y gwaith o drosi ei gwblhau fel rhan o’r cynllun AwDUron gyda’r cwmni cyhoeddi Lilly Translates, a’i fwriad yw dechrau llenwi’r bwlch ym maes llenyddiaeth plant o straeon gan awduron Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol trwy gyfieithu eu gwaith i’r Gymraeg.

Bydd ‘Mae Mari’n Caru Mangos’ yn cael ei lansio ar stondin Mudiad Meithrin am 2 o’r gloch ar brynhawn dydd Iau, Awst 4, gyda Marva Carty, Jessica Dunrod o Lily Translates, a Dr Gwenllian Lansdown Davies.

‘AwDUron’ ac ‘AwDUra’

Marva Carty
Marva Carty

Mae’r cynllun gwreiddiol ‘AwDUron’ hefyd wedi ysbrydoli cynllun newydd o’r enw ‘AwDUra’, sef cynllun sy’n rhoi llais a llwyfan i Gymry Du, Asiaidd ac o gymunedau lleiafrifol ethnig i ysgrifennu, creu a chyhoeddi straeon i blant yn Gymraeg.

Mae hynny fel bod plant yn gweld eu hunain ac amrywiaeth ein gwlad mewn llyfrau.

Mae deg o ddarpar awduron yn cymryd rhan yng nghynllun ‘AwDUra’, ac yn cael eu cefnogi gan Manon Steffan Ros a Jessica Dunrod.

“Mae wir yn anrhydedd fod un o fy llyfrau i wedi cael ei drosi i’r Gymraeg gan felly gyrraedd cynulleidfa newydd o blant trwy gynllun ‘AwDUron’ Mudiad Meithrin a ‘Lily Translates’,” meddai Marva Carty.

“Dwi’n edrych ymlaen at y lansiad yn yr Eisteddfod, gan obeithio y bydd y llyfr yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o lenorion o gefndiroedd amrywiol”.

Mae Mari'n Caru Mangos

‘Mae Mari’n Caru Mangos’

Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies wedi trosi ‘Mari Loves Mangoes’, llyfr Marva Carty, i’r Gymraeg