Mae’r Athro M. Wynn Thomas yn ymddeol o’i rôl yn gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru ar ôl ugain mlynedd.

Wrth ymddeol, dywed ei bod hi wedi bod yn “fraint ac yn bleser digymysg” cael bod yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y Cyngor Llyfrau.

Yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 25), cafodd Linda Tomos, fu’n arwain y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 2015 a 2019, ei phenodi i’w olynu.

Bydd Rona Aldrich yn parhau yn ei rôl yn is-gadeirydd y Cyngor Llyfrau, rôl y mae hi wedi bod ynddi ers 2015.

‘O nerth i nerth’

Mae’r Athro M. Wynn Thomas yn Athro’r Saesneg ac yn ddeilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn arbenigwr ar farddoniaeth Americanaidd a llenyddiaeth Cymru fodern.

Derbyniodd anrhydedd uchaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2000, ac mae’n Gymrawd yr Academi Brydeinig ac yn Gymraeg ac yn gyn Is-lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Bu’n fraint ac yn bleser digymysg i fod yn Gadeirydd y Cyngor, ac i’w weld yn tyfu yn gorff cenedlaethol o bwys sy’ bellach yn gwasanaethu holl ddiwydiant cyhoeddi egnïol y genedl,” meddai’r Athro M. Wynn Thomas.

“Mae arnaf ddyled enfawr i’r swyddogion a fu’n cydweithio â mi, i staff y Cyngor, ac yn arbennig i’r tri Chyfarwyddwr disglair o ddawnus y bûm yn eu cynorthwyo. Fe fu’n addysg ac yn ysbrydoliaeth i’w gwylio wrth eu gwaith.

“Dymunaf bob llwyddiant i’m holynydd. Wrth gymryd y Gadair gall fod yn berffaith hyderus bod y Cyngor yn mynd o nerth i nerth.”

‘Cryfhau’r sector’

Mae Linda Tomos yn llyfrgellydd siartredig gyda thros 40 mlynedd o brofiad yn y sector, a bu’n Llyfrgellydd Cenedlaethol rhwng 2015 a 2019.

Bu’n gweithio fel uwch was sifil gyda Llywodraeth Cymru, a hi oedd Cyfarwyddwr cyntaf CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru.

“Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio â’m cyd-ymddiriedolwyr a staff talentog y Cyngor Llyfrau i ddarparu strategaeth gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gryfhau’r sector a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru,” meddai.

‘Cefnogaeth eithriadol’

Ar ôl penodiad Linda Tomos, fe wnaeth Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, ei llongyfarch.

“Rwyf i, a chyd-ymddiriedolwyr Linda, eisoes wedi elwa’n fawr o’i chyfraniad fel aelod o’r Bwrdd ers mis Ebrill 2021, ac o’i chefnogaeth i ddatblygu ein strategaeth newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf,” meddai.

“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r cyfraniad a’r gefnogaeth ddibrin eithriadol a gafwyd gan yr Athro M. Wynn Thomas dros ei gyfnod o ugain mlynedd fel Cadeirydd.

“Mae ei arweinyddiaeth wedi ein cynorthwyo i lywio’n ffordd drwy rai cyfnodau heriol gan ein cryfhau fel sefydliad ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda Linda, Rona a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i adeiladu ar ei etifeddiaeth.”