Drama fyw yn rhoi cipolwg ar Gymru’r dyfodol fydd cyfraniad nesaf y wlad i’r ŵyl UNBOXED: Creativity in the UK.
Bydd GALWAD: Stori o’n Dyfodol yn cael ei darlledu ar sianel Sky Arts, ac yn cyfuno perfformiadau byw a drama deledu rhwng Medi 26 a Hydref 2.
UNBOXED: Creativity in the UK, yw’r enw newydd ar ‘Festival UK 2022’, a chafodd un o berfformiadau cyntaf yr ŵyl ei gynnal yng Nghaernarfon ychydig fisoedd yn ôl.
‘Gŵyl Brexit’ oedd yr enw answyddogol gwreiddiol ar yr ŵyl, sy’n seiliedig ar syniad Theresa May i ddathlu creadigrwydd y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit.
Er hynny, mae trefnwyr yr ŵyl wedi gwrthod y label ‘Gŵyl Brexit’, gan ddweud ei bod hi’n “ddathliad arloesol o greadigrwydd dros y Deyrnas Unedig”.
Mae GALWAD, sydd wedi cael ei chomisiynu gan Gymru Greadigol, yn dod â 200 o ddoniau creadigol Cymru ynghyd i adrodd stori drwy ffrydio a darlledu byw o Abertawe, Merthyr Tudful a Blaenau Ffestiniog.
Ymhlith yr actorion mae Rhodri Meilir, Alexandria Riley, Matthew Aubrey, Aisha-May Hunte a Nitin Ganatra.
Cipolwg ar y dyfodol
O Fedi 26, bydd modd dilyn y stori ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y teledu wrth iddi symud rhwng Cymru heddiw a Chymru 30 mlynedd i’r dyfodol, drwy wylio S4C a thrwy Facebook, Twitter, Instagram, YouTube a TikTok.
Daw’r stori i ben gyda darllediad pedair awr o hyd ar Sky Arts yn cynnig cyfle i ddal fyny gyda digwyddiadau’r wythnos yn Abertawe, Merthyr Tudful a Blaenau Ffestiniog, cyn y diweddglo fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw o Flaenau Ffestiniog a drama awr o hyd wedi’i gosod yn y dyfodol.
Dechreuodd GALWAD gyda phroses ‘creu bydoedd’ gyda 120 o bobol o bob rhan o Gymru.
Mae wedi’i hysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n rhoi dyfodol pobol ifanc wrth wraidd penderfyniadau polisi, ac mae’n gwahodd cynulleidfaoedd i archwilio sawl cyfyng-gyngor moesol a phosibiliadau’r dyfodol yn sgil cynnydd o 1.8 gradd mewn tymereddau byd-eang a newid cymdeithasol eang.
Mae’r ddrama yn gywaith sy’n cael ei harwain gan National Theatre Wales gyda Frân Wen; Canolfan y Dechnoleg Amgen; Celfyddydau Anabledd Cymru; Clwstwr; Ffilm Cymru a Sugar Creative; a chwmni cynhyrchu teledu Mad as Birds.
“Nawr yn fwy nag erioed mae angen straeon newydd ac annisgwyl am y dyfodol,” meddai Claire Doherty, Cyfarwyddwr Creadigol GALWAD.
“Mae GALWAD yn cynrychioli’r genhedlaeth nesaf o straeon a storïwyr o Gymru.
“Mae’n weithred o gyd-ddychmygu creadigol sy’n adeiladu ar hanes cyfoethog Cymru o berfformio safle-benodol ac yn dod â hynny’n bendant iawn i mewn i’r oes ddigidol a ffrydio.
“Yn gymaint â bod yn stori sy’n dangos sut y bydden ni’n ymateb petaen ni’n cael cipolwg ar ein dyfodol, mae GALWAD yn ddychmygiad byw o fywyd yn 2052.”
‘Arddangos Cymru ar lwyfan rhyngwladol’
Dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon Cymru, fod Llywodraeth Cymru’n edrych ymlaen at “ddathliad cyffrous o greadigrwydd yn seiliedig ar gyd-greu ac yn cynnwys cymunedau amrywiol o bob rhan o Gymru”.
“Mae gwaith GALWAD yn hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’n doniau creadigol a bydd yn arddangos Cymru ar lwyfan rhyngwladol,” meddai.
“Rydyn ni’n gweld sut mae’n buddsoddi yn y sectorau creadigol a thechnolegol, yn creu cyfleoedd ar gyfer doniau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn cefnogi’r diwydiannau creadigol wrth i ni ddod allan o’r pandemig gyda buddsoddiad a chyfleoedd gwaith.
“Rwy’n falch iawn fod GALWAD, a fydd yn cael ei ddarlledu ar Sky Arts, yn cynnwys doniau o Gymru ac yn cael ei chynhyrchu gan gwmnïau teledu o Gymru.
“Edrychwn ymlaen at gael gweld y canlyniad terfynol ym mis Medi.”
‘Torri tir newydd’
Mae GALWAD yn un o ddeg digwyddiad mawr sy’n “torri tir newydd” sy’n ffurfio UNBOXED.
“Mae GALWAD yn gymysgedd gwefreiddiol o ddychymyg di-ben-draw, syniadau a thechnoleg sy’n dod at ei gilydd mewn gwaith byw a darlledu rhyfeddol o adrodd straeon i bobol Cymru a’r tu hwnt ei fwynhau,” meddai Martin Green, Prif Swyddog Creadigol UNBOXED.
“Ac, fel prosiectau eraill UNBOXED, mae wedi dod â chyfleoedd i bobol ifanc yng Nghymru ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i greu gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.”