Mae’r arlunydd stryd Banksy yn enwog am ei furluniau sy’n ymddangos mewn mannau annisgwyl dros nos.

Mae tref Port Talbot eisoes wedi elwa ar un o’i weithiau, ond mae’n ymddangos bellach fod ei waith wedi cyrraedd tref Aberteifi hefyd.

Mae’r lluniau hyn gan Stuart Ladd yn dangos darluniau sy’n edrych yn debyg iawn i’r math o waith mae Banksy fel arfer yn ei greu, sydd wedi ymddangos ar wal bwyty Mecsicanaidd ‘El Salsa’.

Maen nhw’n dathlu dau o arwyr cerddorol y dref, y diweddar Richard a Wyn Jones o’r band Ail Symudiad, yn ogystal â David R. Edwards neu ‘Dave Datblygu’.

Y cwestiwn mawr ar wefusau pobol leol, felly, yw a yw Banksy wedi bod yn Aberteifi, ac ai fe sy’n gyfrifol am y deyrnged liwgar hon i’r brodyr a sylfaenwyr y cwmni recordiau Fflach? Penderfynwch chi!

Murlun Banksy yn gadael Port Talbot

Bydd yn cael ei gludo i leoliad diogel yn dilyn fandaliaeth