Fe fydd cystadleuaeth Eurovision yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig y flwyddyn nesaf, ac mae rhai yn awyddus i’w gweld hi’n dod i Gymru.

Enillodd Kalush Orchestra o Wcráin y gystadleuaeth eleni gyda’u cân Stephania, ac yn ôl y rheolau arferol, bydden nhw wedi bod yn cynnal y digwyddiad y flwyddyn nesaf.

Ond penderfynodd trefnwyr y sioe na fydd cynnal y digwyddiad yno oherwydd y rhyfel parhaus yn dilyn ymosodiad Rwsia ar y wlad.

Daeth y Deyrnas Unedig yn ail yn y gystadleuaeth eleni, felly agorodd yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU) drafodaethau gyda’r BBC.

Nid yw’n hysbys eto pa ddinas fydd yn ei chynnal, ond mae dinasoedd gan gynnwys Glasgow a Chaerdydd wedi mynegi diddordeb.

Gallai Leeds, Lerpwl, Newcastle, Birmingham, Aberdeen, Llundain, Brighton a Belfast hefyd fod yn opsiynau.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r ddinas lwyddiannus fodloni gofynion arbennig.

Y llynedd, roedd meini prawf y gystadleuaeth yn gofyn bod lleoliad yn cael ei ddarparu a allai gynnwys o leiaf 10,000 o wylwyr yn ogystal â chanolfan i’r wasg, a ddylai fod o fewn cyrraedd hawdd i faes awyr rhyngwladol gyda digon o lety gerllaw.

Hanes o gynnal digwyddiadau ‘epig’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi cynnal dadl yn y Senedd yn galw am gynnal Eurovision yng Nghymru.

“Dyma gyfle gwych i Gymru gamu i’r adwy a chynnal cystadleuaeth fyd-enwog Eurovision,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y blaid.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi arwain y ffordd wrth alw am hyn, gan gynnwys cynnal dadl yn y Senedd.

“Mae gan Gymru hanes o gynnal digwyddiadau epig, a byddwn yn gallu cynnal parti mwyaf Ewrop y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Mae’n drueni aruthrol na fydd Eurovision yn cael ei chynnal yn yr Wcrain lle mae’n perthyn oherwydd ymddygiad ymosodol milwrol di-baid Putin yn erbyn pobl yr Wcrain.

“Ond os yw’r DU i gynnal ar ran yr Wcrain yna dwi’n siŵr y byddai Caerdydd a Chymru yn westeion fwy na pharod.”

‘Dewch i Gymru’

Mae nifer wedi bod yn rhannu eu brwdfrydedd i gynnal y gystadleuaeth yng Nghaerdydd ar Twitter.

Dywedodd un: “Rwy’n gwbl gefnogol o’r ymgyrch i gael Eurovision Caerdydd, pa gaws sydd angen i mi ei anfon at Mark Drakeford i wneud i hyn ddigwydd?”

Dywedodd un arall: “Rhaid i Gaerdydd cynnal. Efo’r @principalitysta mae gennym yr arena fwyaf yn y DU. Gallem dorri’r record dorf fwyaf a sicrhau bod llawer o Wcraniaid hefyd yn cael tocynnau am ddim. Dychmygwch dorf o dros 60,000 neu efallai mwy!”

“Dydw i ddim yn fan Eurovision, ond os dydi hyn ddim yn mynd i Gaerdydd, mae rhywbeth o’i le,” meddai un arall.

Fe wnaeth un nodi hefyd fod Stadiwm Principality dafliad carreg o’r BBC yng nghanol Caerdydd.