Bydd 12 diwrnod ychwanegol o barcio am ddim ar gael tros y flwyddyn nesaf ym meysydd parcio’r cyngor sir yn Llanymddyfri.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â’r dref yn Sir Gaerfyrddin y flwyddyn nesaf, a’r cyngor yno yn awyddus i weld a oes modd hybu busnesau yno drwy gynnig mwy o barcio am ddim i gwsmeriaid posib.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu pum diwrnod parcio am ddim yn eu meysydd parcio yn Llanymddyfri, Llanelli, Caerfyrddin, Rhydaman, Llandeilo, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr i gefnogi digwyddiadau lleol a helpu i hybu’r economi leol.

Cynllun peilot yw’r 12 diwrnod ychwanegol o barcio am ddim yn Llanymddyfri.

Ceisio helpu trefi gwledig

Mae cynrychiolwyr o rai o drefi gwledig y sir wedi holi am y posibilrwydd o gynyddu nifer y diwrnodau parcio am ddim, yn dilyn adroddiadau diweddar a gynhaliwyd fel rhan o fenter Deg Tref y Cyngor, sy’n ceisio cynyddu gwydnwch a thwf trefi marchnad wledig Sir Gaerfyrddin a’r ardaloedd cyfagos ar gyfer y dyfodol.

Yn benodol, mae ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Llanymddyfri, a fydd hefyd yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price: “Mae parcio am ddim ar gael oherwydd y gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu cynnal yn Llanymddyfri ac mae’n ganolog i’r ffordd y maent yn gweld twf economaidd yn yr ardal honno. Mae pwynt 5 yn yr argymhellion yn cydnabod hynny ac yn cynnig ein bod yn dechrau cynllun peilot am 12 mis i weld sut y bydd hynny’n gweithio.

“Rydym yn cydnabod bod anghysondeb ar draws y sir o ran parcio am ddim a’r gwahanol ddyddiau y mae’n cael ei ddarparu, ac mae hwn yn gyfle i edrych ar y strategaeth parcio am ddim ar draws y sir.

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gweithio gyda’r gwahanol drefi a’r busnesau yn y trefi hynny drwy’r Ardaloedd Gwella Busnes a sefydliadau eraill i weld a yw’r system bresennol yn gweithio iddyn nhw neu a oes angen ei newid. Yn y trafodaethau cychwynnol yr wyf wedi’u cael gyda llawer o aelodau, rwy’n credu bod awydd i ailedrych ar hyn er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni’r hyn rydym am iddo wneud.”