Mae albwm Gwenno, ‘Tresor’, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Mercury eleni, a bydd hi’n darganfod heno (nos Fawrth, Hydref 18) a yw hi wedi ennill y wobr.

Cafodd ei recordio’n gyfangwbl yn Gernyweg, gydag un gân yn Gymraeg, ac fe fydd yn cystadlu yn erbyn albymau Harry Styles, Sam Fender, Self Esteem ac eraill am un o’r gwobrau cerddoriaeth mwyaf yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon.

Cafodd ‘Tresor’ ei ysgrifennu a’i recordio ym Mhorth Iâ cyn cyfnod clo Covid-19 yn 2020, a’i gwblhau yng nghartre’r gantores a’i phartner, Rhys Edwards, yng Nghaerdydd.

Yn sgil ei hail albwm, Le Kov’, cafodd y Gernyweg gryn lwyfan ar draws y byd, wrth iddi deithio Ewrop ac Awstralia a chefnogi bandiau mawr fel y Manic Street Preachers ac mae ei cherddoriaeth wedi arwain at gynnydd yn y sylw i’r Gernyweg a nifer y bobol sy’n mynd ati i ddysgu’r iaith.

Mae hi wedi canu yn y Gernyweg ar deledu hefyd, gan ymddangos ar raglen Jools Holland ar y BBC a chanu ‘Tir ha Mor’, sydd unwaith eto wedi codi proffil yr iaith.

Dyma’r tro cyntaf iddi gael ei henwebu ar gyfer Gwobr Mercury, ac mae hi’n gobeithio dilyn yn ôl traed enillwyr blaenorol fel Arlo Parks, Michael Kiwanuka, Elbow, Klaxons, Arctic Monkeys, Franx Ferdinand, Dizzee Rascal, Ms Dynamite, Pulp, M People, Suede, Primal Scream a mwy.

Roedd disgwyl y byddai’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ar Fedi 8, ond cafodd ei gohirio yn sgil marwolaeth Brenhines Lloegr.

Ymateb i’r newyddion

Dyma rai o’r ymatebion sydd wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol i’r newyddion: