Noder: Mae’r erthygl yma yn trafod cymeriad dychmygol sy’n ystyried rhoi terfyn ar ei fywyd
Mae actor ac awdur sy’n byw gydag anhwylder deubegynnol – bipolar – yn dweud bod eisiau i gymdeithas drafod salwch meddwl yn ogystal â materion iechyd meddwl cyffredinol.
Fe fydd Ceri Ashe, sy’n hanu o Faenclochog ond yn byw yn Llundain ers 2011, yn cyflwyno ei drama Bipolar Fi yn Theatr y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Sul, Llun a Mawrth.
Cafodd yr awdur ddeiagnosis o’r anhwylder pan oedd hi’n 29 oed.
Aeth ati dair blynedd wedyn i sgrifennu drama Saesneg am y profiad o gael y diagnosis a’r effaith arni hi, ei theulu, a’i bywyd carwriaethol.
Mae hi wedi addasu’r ddrama i’r Gymraeg yn arbennig i’r Eisteddfod eleni, yn dilyn perfformiadau yn Llundain, ac Abergwaun, cyn y pandemig.
Pan sgrifennodd y ddrama wreiddiol, nid oedd ar feddyginiaeth tuag at yr anhwylder, ond mae wedi ailddechrau eu cymryd ers tua blwyddyn, ar ôl cyfnod o iselder difrifol.
“Dw i’n meddwl bod pobol yn siarad ambyti mental health yn fine – anxiety, neu damaid bach o iselder,” meddai’r actor.
“Ond dyw pobol yn dal ddim yn siarad am mental illness.
“Dw i’n dal yn cael nerfau anferth pan dw i’n dweud wrth bobol newydd fy mod i gydag e, er fy mod i’n sgrifennu sioe amdano fe. Os dw i ar ddêt, maen nhw’n gofyn, ‘am beth mae dy sioe?’ Dw i fel, ‘oh God! Rhaid i fi ddweud wrthyn nhw nawr!’”
Mae hi’n gwarchod plant yn ogystal â sgrifennu ac actio ar ei liwt ei hun.
“Os oes gyda chi fòs ac mi ydych chi angen amser off, mae’n galed dweud ‘mae gyda fi iselder’,” meddai.
“Dw i’n dal yn teimlo fod yna damaid bach o stigma, ond mae’n siŵr mai fy nerfau i yw hwnna.”
Addas i rai dros 15 oed
Bu’r actor yn sgwrsio gyda chylchgrawn golwg ac mae’r cyfweliad llawn i’w weld yn rhifyn dydd Iau, 28 Gorffennaf o’r cylchgrawn.
Bydd yna arwydd y tu allan i Theatr y Maes adeg y perfformiadau yn cyhoeddi bod Bipolar Fi yn addas i rai dros 15 oed, am fod ynddi rhywiol a rhegfeydd.
Yn yr olygfa gyntaf, mae’r prif gymeriad, ‘Katie’, yn isel iawn ac yn ystyried rhoi terfyn ar ei bywyd.
“Does dim dala nôl,” meddai Ceri Ashe wrth golwg.
“Falle bydd rhai pobol yn theatr yr Eisteddfod yn shocked, sa i’n gwybod… Dyw hi ddim yn sioe ar gyfer y teulu.
“Dw i’n meddwl y byddai’n dda bod pobol ifanc, grŵp oedran Maes B, yn ei gweld hi, achos bod iechyd meddwl mor bwysig nawr. Mae hi hefyd yn stori gariad, ac mae yna gerddoriaeth dda ynddo fe… Mae e’n ddoniol ond yn eitha’ heriol i’w wylio hefyd.
“Mae break-up scene ynddo fe, ac mae pob un yn gallu uniaethu efo hwnna. Mae e’n mynd i lefydd eitha’ onest, ac eitha’ caled.”
- Pan fo pethau yn mynd yn anodd, mae’r Samariaid yna i chi – ddydd neu nos, bob dyddo’r flwyddyn. Gallwch ffonio’r llinell Gymraeg ar 0808 164 1234, anfon e-bost atynt yn jo@samaritans.org neu ewch i www.samaritans.org i ddod o hyd i’r gangen agosaf