Mae Côr Aelwyd Dyffryn Clwyd yn cynrychioli’r Urdd fel côr swyddogol Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 27).
Ar ôl cipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Côr S.A.T.B 14-25 oed yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni, bydd y côr yn perfformio yn Nhŷ Cymru brynhawn heddiw fel rhan o baratoadau’r athletwyr cyn i’r cystadlu ddechrau’n swyddogol fory.
Daeth yr Urdd yn bartner elusennol i Dîm Cymru yn 2019, ac yn ystod wythnos Eisteddfod T llynedd, datgelwyd mai Mistar Urdd fyddai masgot swyddogol Tîm Cymru yn y Gemau eleni.
Yn ogystal â derbyn ymweliad gan y côr, mae Mainc Mistar Urdd wedi glanio yn Nhŷ Cymru hefyd fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y mudiad.
‘O nerth i nerth’
Dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, fod y berthynas rhwng y mudiad a Thîm Cymru wedi mynd “o nerth i nerth”.
“Mae’r cyfle i gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau rhyngwladol yn brin ond bob pedair blynedd, mae Gemau’r Gymanwlad yn gyfle unigryw i athletwyr elitaidd wisgo coch Cymru,” meddai.
“Mae perthynas yr Urdd a Thîm Cymru wedi mynd o nerth i nerth ac mae hi’n wych cael cydweithio er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i roi cynnig ar chwaraeon, yn ogystal â chynnig profiadau unigryw i’n haelodau fel y mae Côr Aelwyd Dyffryn Clwyd yn ei gael yma heddiw.”
“Wedi amser hir o gynllunio, rydym yn edrych ymlaen i’r athletwyr a’r bobl leol yn Birmingham i gael clywed Côr Dyffryn Clwyd yn perfformio,” meddai Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu Tîm Cymru, wedyn.
“Roeddwn yno yn yr Eisteddfod pan enillwyd y gystadleuaeth ganddynt, roedd perfformiad y côr yn un arbennig, ac mae gwledd yn disgwyl pawb y prynhawn yma.
“Rhaid diolch i’r Urdd am yr holl gefnogaeth ers dod yn bartner elusennol, mae’n hanfodol parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i hyrwyddo ein hiaith ar hyd y Gymanwlad.”
‘Arddangos doniau gorau Cymru’
Bydd 199 o athletwyr o Gymru yn teithio i Birmingham i gystadlu mewn 15 camp rhwng Gorffennaf 28 ac Awst 8, gan gynnwys pedwar set o frodyr a chwiorydd – Megan ac Elinor Barker (beicio), Joe a Hannah Brier (athletau), yr efeilliaid Ioan a Garan Croft (bocsio), a Tesni ac Emyr Evans (sboncen).
Y chwaraewr bowls Anwen Butten yw’r capten, ac mae’r tîm yn cynnwys y nifer uchaf erioed o bara-athletwyr i gynrychioli Cymru.
Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Cymru, wedi anfon neges pob lwc i Dîm Cymru hefyd.
“Hoffwn ddymuno pob lwc i’n holl athletwyr wrth gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham ddiwedd y mis,” meddai Mark Drakeford.
“Dyma gyfle gwych i arddangos y doniau gorau sydd gan Gymru ym maes chwaraeon. Mae hefyd yn ysbrydoliaeth i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon a gobeithio dod o hyd i’w harbenigedd eu hunain!”
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gymru hapus, iach ac egnïol, a does dim ysbrydoliaeth well i Gymry na pherfformiad Tîm Cymru yn Birmingham,” meddai Dawn Bowden.
“Pob lwc i’n holl athletwyr gwych. Mae Cymru gyfan y tu ôl i chi! Pob Lwc!”
- Darllenwch y cyfweliad gydag Anwen Butten fydd yn ymddangos yng nghylchgrawn golwg yr wythnos hon.